Skip to main content

Rhoi gwybod am newid neu amrywiad i'ch Trwydded Tai Amlfeddiannaeth

Pryd dylwn i roi gwybod am newid / amrywiad i fy Nhrwydded Tai Amlfeddiannaeth?

Rhaid i chi wneud cais am amrywiad i'ch trwydded Tai Amlfeddiannaeth mewn unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol

  • Mae'r perchennog neu reolwr cyfredol wedi newid ei enw
  • Mae'r perchennog neu reolwr cyfredol wedi newid ei gyfeiriad
  • Hoffech chi gynyddu uchafswm nifer y meddianwyr
  • Mae yna newid sylweddol i ddyluniad neu ystafelloedd yr eiddo
  • Mae yna newid i drefniadau rheoli

Oes modd trosglwyddo trwydded Tai Amlfeddiannaeth o un person i un arall?

Mae trwydded Tai Amlfeddiannaeth yn cael ei rhoi i un person penodol, felly does dim hawl ei throsglwyddo i unrhyw un arall. Mae angen trwydded newydd ym mhob achos. Mae modd i chi wneud cais newydd yma (NB: link will be made live once system is live)

Pwy ddylai roi gwybod am amrywiad i Drwydded Tai Amlfeddiannaeth?

Dim ond y deiliad trwydded cyfredol sydd â'r hawl i wneud amrywiad i'w Drwydded Tai Amlfeddiannaeth.

Beth fydd angen arna i cyn rhoi gwybod am amrywiad i fy Nhrwydded Tai Amlfeddiannaeth?

Casglwch y dystiolaeth ganlynol cyn rhoi gwybod am eich amrywiad.

  • Rhaid i'r perchennog a'r rheolwr gytuno i'r amrywiad. Mae angen llythyr wedi'i lofnodi os nad yw'r ymgeisydd yn cyflawni rôl y perchennog a'r rheolwr.
  • Bydd angen cynllun llawr diweddar os oes newidiadau sylweddol i ddyluniad yr eiddo. Does dim angen i'r cynllun yma fod i raddfa, ond dylai nodi defnydd pob ystafell a phresenoldeb offer rhagofalon tân. Mae modd i chi dynnu llun o hyn â llaw, ond bydd angen i chi lwytho'r llun yma i gyd-fynd â'ch cais.

Does dim rhaid talu unrhyw ffi am roi gwybod am amrywiad i'ch Trwydded Tai Amlfeddiannaeth. Serch hynny, os ydych chi am ychwanegu ystafelloedd/unedau ychwanegol at eich trwydded gyfredol, bydd angen talu'r gwahaniaeth yn y taliad ffioedd gwreiddiol h.y. Codir £179 am bob ystafell/uned a ychwanegir at y drwydded gychwynnol.

Rhoi gwybod am newid neu amrywiad

Rhoi gwybod am newid neu amrywiad ar-lein