Skip to main content

Tynnu'n ôl neu ddiddymu eich Trwydded Tai Amlfeddiannaeth

Pwy sy'n gallu tynnu Trwydded Tai Amlfeddiannaeth yn ôl?

  1. Deiliad presennol y drwydded:  

Os ydych chi naill ai'n lleihau nifer y meddianwyr fel ei fod yn is na'r gofynion trwyddedu neu os yw'r perchennog neu un teulu'n unig wedi meddiannu'r eiddo, dydy'r eiddo bellach ddim yn gweithredu fel Tŷ Amlfeddiannaeth.  Yn yr achos yma mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn bod disgwyl i'ch trwydded gael ei hadnewyddu trwy ofyn i ni dynnu'ch trwydded yn ôl.  Serch hynny, os yw'r newid yma dros dro, dylech chi yn hytrach wneud cais am Hysbysiad Eithrio Dros Dro.

Os bydd angen trwydded ar eich eiddo yn y dyfodol, byddai'n ofynnol i chi gyflwyno cais newydd a byddai'n rhaid talu'r ffioedd cysylltiedig. Os mai chi neu un teulu yn unig a feddiannodd yr eiddo ddiwethaf, efallai bydd angen cael Caniatâd Cynllunio i weithredu'r eiddo fel Tŷ Amlfeddiannaeth.

Tynnu Eich Trwydden Yn Ol

Bydd dim tal am dynnu'ch trwydded yn ôl ac mae modd i chi wneud hyn ar-lein:
Optional help text

Pwy sy'n gallu diddymu eich Trwydded Tai Amlfeddiannaeth?

Mae modd i'r Awdurdod Lleol ddiddymu Trwydded Tai Amlfeddiannaeth o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Mae deiliad trwydded neu unrhyw un arall wedi torri un o amodau'r drwydded mewn ffordd ddifrifol/wedi torri amodau dro ar ôl tro;
  • Dydy deiliad y drwydded bellach ddim yn addas i ddal y drwydded;
  • Byddai trwydded yn cael ei gwrthod am reswm penodol yn ymwneud â strwythur y Tŷ Amlfeddiannaeth;
  • Dydy'r Tŷ Amlfeddiannaeth ddim yn rhesymol addas ar gyfer nifer y teuluoedd / unigolion sydd wedi'u pennu fel y nifer uchaf a awdurdodir i feddiannu'r tŷ.

Mae modd i chi apelio yn erbyn y penderfyniad yma trwy gysylltu â Thribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru.  Cysylltwch â ni yn gyntaf.

Carfan Safonau Tai

Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau'r Gymuned.

E-bost: IechydyCyhoeddaThai@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn: 01443 425478