Skip to main content

Mewnforio anifeiliaid

Mae rheoliadau mewnforio'n wahanol, yn dibynnu a ydych chi'n mewnforio i'r Deyrnas Unedig neu'n mewnforio i wledydd tramor.

Mewnforio i'r Deyrnas Unedig

Mae rheoliadau cwarantîn yn dal i fod mewn grym yn y Deyrnas Unedig. Mae torri'r rheoliadau hyn yn erbyn y gyfraith. Mae mewnforio anifeiliaid anwes (sy'n cynnwys bochdewion, gerbilod, llygod ac adar) i'r Deyrnas Unedig yn cael ei reoli'n llym. Os ydych chi'n bwriadu mewnforio anifail anwes, dylech chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf. Yn ôl Gorchymyn y Gynddaredd (Mewnforio Cŵn, Cathod a Mamaliaid Eraill) 1974 (fel y'i diwygiwyd), mae gennym ni'r pŵer i ddifa anifeiliaid sy'n glanio heb basbort i anifeiliaid anwes. Yn ogystal â hynny, mae'r gyfraith yn rhoi pwerau i roi dirwy i berchnogion anifeiliaid, neu'u hanfon nhw i'r carchar. Dyna pam mae'n bwysig bodloni'r gofynion hyn.

Cynllun Teithio i Anifeiliaid Anwes

Mae'r Cynllun Teithio i Anifeiliaid Anwes (Cynllun PETS) yn system sy'n caniatáu i anifeiliaid anwes o rai gwledydd ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig heb orfod bod yn destun cyfnod o gwarantîn, ar yr amod bod gweithdrefnau penodedig yn cael eu dilyn.

Mae hefyd yn golygu y gall pobl yn y Deyrnas Unedig fynd â'u hanifeiliaid anwes i wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, a dod â nhw yn ôl i'r Deyrnas Unedig.

Hefyd, ar ôl mynd â'u hanifeiliaid anwes i rai gwledydd sydd ddim yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, mae'n bosibl iddyn nhw ddod â nhw yn ôl i'r Deyrnas Unedig heb yr angen am gwarantîn.

Mae rhagor o wybodaeth am yr uchod ar gael gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (‘DEFRA’).

 

Ffôn: 01443 425777
Ffacs: 01443 425301
Minicom: 01443 425535