Os ydych chi'n weithredwr busnes bwyd ac mae angen arnoch chi ganllawiau ar beth i'w wneud os yw gweithiwr/gweithwyr yn dioddef o glefyd heintus, dilynwch y canllawiau yma:
Rhaid dweud wrth yr Awdurdod Iechyd am rai clefydau heintus penodol. Bydd yr Ymgynghorydd mewn Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy (YRhCT), neu swyddogion y Cyngor, yn ymchwilio iddyn nhw. Byddwn ni'n ymchwilio i wenwyn bwyd, ac i nifer o glefydau tebyg eraill mae'n rhaid rhoi gwybod amdanyn nhw.
Dau amcan sydd i'n hymchwiliadau. Rhaid inni atal salwch rhag ymledu yn y gymuned. Rhaid inni geisio canfod achosion posibl y clefyd. Yn ogystal â hyn, byddwn ni'n rhoi cyngor i gleifion ar sut mae atal y clefyd rhag ymledu yn eu cartrefi.
Mae modd i bob math o facteria (‘germau’) achosi salwch sy'n deillio o fwyd. Pan fydd bwyd yn cael ei gadw'n gynnes, mae modd i'r bacteria hyn dyfu'n gyflym. Mae modd iddyn nhw gyrraedd lefel beryglus o fewn ychydig oriau. Mae nifer yr achosion o salwch sy'n deillio o fwyd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Rhaid inni gynnal safonau hylendid bwyd da, mewn diwydiant ac yn ein cartrefi, i atal salwch sy'n cael ei drosglwyddo trwy fwyd sydd wedi'i halogi.
Mae'r cyfnod heintus (sef y cyfnod rhwng bwyta'r bwyd a theimlo'n sâl) yn amrywio yn dibynnu ar y math o organeb. Mewn rhai achosion, mae'n bosibl y bydd hyn hyd at 10–15 o ddiwrnodau ar ôl bwyta'r bwyd. Dyna pam ddylech chi ddim meddwl fod yr organeb yn y pryd diwethaf gawsoch chi o reidrwydd.
Dyma brif achosion gwenwyn bwyd a salwch sy'n deillio o fwyd:
- Paratoi bwyd rhy bell ymlaen llaw
- Peidio â choginio bwyd yn briodol
- Peidio â dadrewi bwyd yn gywir
- Storio bwyd yn anghywir (sef yn rhy gynnes) fel bod modd i facteria dyfu'n gyflym
- Croeshalogi bwydydd ar ôl eu coginio
- Haint gan bobl sy'n trin bwydydd, oherwydd hylendid gwael
Pwy sydd mewn perygl?
Pob un ohonon ni, ond mae'n bosibl i fabanod, plant ifainc a'r henoed fynd yn sâl iawn yn gyflym iawn pan fyddan nhw wedi'u heintio. Mae modd i effaith salwch yn sgil bwyta bwyd wedi'i halogi fod yn ddifrifol iawn os ydych chi'n disgwyl babi, yn sâl yn barod, neu os ydy'ch system imiwnedd wedi'i gwanhau.
Beth yw Symptomau Gwenwyn Bwyd?
- Dolur rhydd
- Poenau yn y bol
- Chwydu
- Twymyn
- Cyfog
- Pen tost
- Pendro
Mae llawer o wahanol glefydau, mae pob un yn cael ei achosi gan wahanol facteria. Dyma rai o'r bacteria mwyaf cyffredin:
Campylobacter
Mae'r symptomau'n cynnwys poenau yn y bol, a dolur rhydd difrifol. Yn anaml y bydd pobl yn chwydu. Bydd symptomau'n dechrau dod i'r amlwg 2–10 o ddiwrnodau ar ôl bwyta bwyd sydd wedi'i halogi. (Byddan nhw'n dechrau cyn pen 5 niwrnod fel arfer). Dyma brif ffynonellau'r haint: cig cyw iâr (a chigoedd eraill) sydd heb ei goginio'n iawn, dod i gysylltiad ag anifeiliaid anwes, croeshalogi o fwydydd eraill, llaeth amrwd, a dŵr wedi'i halogi. Campylobacter yw achos mwyaf cyffredin dolur rhydd.
Salmonela
Mae'r symptomau'n cynnwys bola tost, twymyn, y dolur rhydd, a chwydu. Fel arfer, bydd y clefyd yn cymryd tua 12–48 o oriau i ddatblygu. Mae bosibl y bydd yn llawer mwy difrifol yn achos pobl ifainc a'r henoed hefyd. Dyma brif ffynonellau'r haint: cig (gan gynnwys cig dofednod) sydd heb ei goginio'n iawn, llaeth heb ei drin, ac wyau amrwd neu rai heb eu coginio'n iawn. Salmonela yw ail achos mwyaf cyffredin gwenwyn bwyd.
E.coli 0157
Mae'r symptomau'n cynnwys dolur rhydd gwaedlyd difrifol. Mae modd i'r haint arwain at niwed difrifol i arennau plant. Dyma brif ffynonellau'r haint: byrgyrs a briwgig eidion heb eu coginio'n iawn, cigoedd wedi'u coginio a gafodd eu halogi, a llaeth heb ei basteureiddio. Mae E.coli 0157 wedi cael ei gysylltu â ffermydd.
Staffylococws awrëws
Mae'r symptomau'n cynnwys bola tost, a chwydu. Bydd y symptomau'n datblygu 1–6 o oriau ar ôl bwyta, gan gymryd 12–24 o oriau fel arfer cyn iddyn nhw ddod i ben. Mae'r bacteria hyn i'w cael ar gyrff pobl (yn enwedig yn y trwyn a'r llwnc, ac ar y croen ac yn y clustiau). Byddan nhw'n cael eu trosglwyddo i fwyd drwy arferion gwael ynglŷn â thrafod bwyd.
Listeria
Symptomau tebyg i'r ffliw fydd gan listeria mewn pobl sy'n iach. Serch hynny, os ydych chi'n ifanc neu'n oedrannus, mae modd iddo achosi septisemia, neu lid yr ymennydd. Os ydych chi'n disgwyl babi, mae'n bosibl i'r babi gael ei eni â llid yr ymennydd, neu farw cyn, neu ar ôl, iddo gael ei eni. Dyma rai ffynonellau: Brie, Camembert, a mathau eraill o gaws meddal, a phates cig. Mae modd i facteria Listeria'n dyfu'n gyflym ar dymheredd oer a rhewi. Dyna pam mae atal gwenwyn bwyd gan Listeria'n fwy anodd nac atal clefydau eraill. Os ydych chi'n disgwyl babi, felly, gwell i chi beidio â bwyta'r bwydydd hyn.
Atal salwch sy'n deillio o fwyd
Dyma ddeg awgrym i geisio lleihau salwch sy'n deillio o fwyd:
- Golchi dwylo'n drylwyr cyn trin bwyd, a bob tro ar ôl trafod cig amrwd, mynd i'r tŷ bach, chwythu trwyn neu gyffwrdd ag anifeiliaid (gan gynnwys anifeiliaid anwes).
- Cadw offer ac wynebau paratoi bwyd yn lân ac wedi'u diheintio (e.e. defnyddio cynhyrchion gwrthfacteria).
- Paratoi a storio cig amrwd a bwyd sy'n ‘barod i'w fwyta’ ar wahân. Cadw cig amrwd a chig sy'n dadrewi ar waelod yr oergell, islaw popeth arall, bob tro.
- Sicrhau bod yr oergell a'r rhewgell yn gweithredu'n iawn a phrynu thermomedr addas. Dylai'r oergell weithredu ar 5ºC neu'n is, a dylai'r rhewgell weithredu ar -18ºC neu'n is.
- Gwirio'r dyddiadau ‘Defnyddio erbyn’ ar fwyd a sicrhau defnyddio'r bwyd cyn y dyddiad hwnnw.
- Cadw wyau yn yr oergell bob tro a pheidio â bwyta bwyd sy'n cynnwys wyau heb eu coginio.
- Peidio â gadael anifeiliaid anwes yn agos i'r bwyd nac i'r wynebau paratoi bwyd.
- Dadrewi'r bwyd (yn enwedig cig a dofednod) yn drylwyr cyn ei goginio.
- Coginio'r bwyd yn drylwyr. Dilyn canllawiau'r gweithgynhyrchwyr a sicrhau bod y bwyd yn chwilboeth drwyddo draw cyn ei fwyta.
- Oeri'r bwyd ar unwaith ar ôl ei goginio a pheidio â gadael i'r bwyd aros ar dymheredd ystafell am dros bedair awr. Os oes bwyd ar ôl, gadael iddo oeri i dymheredd ystafell, yna, ei storio yn yr oergell ar unwaith.
Beth i'w wneud os oes gyda chi symptomau salwch sy'n deillio o fwyd
Mae modd i salwch sy'n deillio o fwyd ledaenu'n gyflym, yn rhannol oherwydd ei bod yn bosibl bod pawb yn y teulu wedi bwyta'r un bwyd, ond, hefyd, oherwydd mae'n bosibl i facteria gael eu trosglwyddo i rywun sy'n gofalu am y person sy'n sâl. Mae modd i feirysau hefyd achosi salwch sy'n debyg i wenwyn bwyd ac sy'n lledaenu'n gyflym iawn. Os ydych chi'n amau bod gwenwyn bwyd arnoch chi, ewch i weld eich meddyg cyn gynted ag y bo modd. Mae'n bosibl bydd y meddyg yn gofyn i chi roi sampl. Mae modd i feddygon ddadansoddi samplau i gael gwybod beth yw achos eich salwch. Mae modd iddyn nhw ddweud pa fath o salwch sydd gyda chi, boed yn wenwyn bwyd neu'n rhywbeth arall. Mae modd iddyn nhw hefyd ddod o hyd i feirysau. Cysylltwch â'r meddyg ar unwaith os yw'r sawl sy'n sâl: yn fabi; yn berson hŷn; yn sâl neu â rhyw gyflwr arall yn barod; neu os yw'r symptomau'n para'n hir neu'n ddifrifol (dolur rhydd gwaedlyd, er enghraifft).
Os ydych chi, neu aelod o'ch teulu, yn dioddef symptomau gwenwyn bwyd, well i chi ddilyn y cyngor isod a cheisio atal lledaenu'r salwch:
- Golchwch eich dwylo ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sy'n sâl, a chyn trafod bwyd.
- Os yw pobl yn dioddef salwch sy'n deillio o fwyd, peidiwch â defnyddio'r un tywel neu glwt golchi â nhw.
- Os bydd rhywun wedi baeddu cyn cyrraedd y tŷ bach, golchwch yr ardal dan sylw ar unwaith â dŵr poeth a sebon. Rhaid diheintio â diheintydd neu gannydd.
- Ar ôl defnyddio'r tŷ bach, rhaid diheintio dolenni'r drws a'r toiled, y tapiau, a sedd y toiled. Diheintiwch bowlen y toiled yn aml.
- Yn ystod eich salwch, yfwch ddigon o hylifau. Bydd hyn yn eich cadw chi rhag colli gormod o ddŵr (‘dadhydradu’).
I gael rhagor o wybodaeth am glefydau heintus, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Lloegr.
Prosiect Bwyd ac Iechyd a Diogelwch
Is-adran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
Ffon: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301
Argyfyngau y tu allan i oriau swyddfa: 01443 425011 (nosweithiau a phenwythnosau)