Skip to main content

Trwydded Mangre Cymeradwy a Thrwydded Triniaethau Arbennig

Tatŵio, Tyllu'r Corff, Electrolysis ac Aciwbigo 

Mae Rhan 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn creu cynllun trwyddedu mandadol ar gyfer ymarferwyr a busnesau sy'n cynnal 'Triniaethau Arbennig' yng Nghymru.

Mae angen trwydded mandadol ar gyfer y 4 driniaeth ganlynol yn unol â Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017:

  • Aciwbigo – gan gynnwys aciwbigo traddodiadol ac aciwbigo gan ddefnyddio nodwydd sych. Dyw hyn ddim yn cynnwys unrhyw ddisgyblaeth sy’n gysylltiedig ag aciwbigo sydd ddim yn cynnwys rhoi nodwyddau yn y croen
  • Tyllu'r corff – mae hyn yn cynnwys pob darn o'r corff, gan gynnwys tyllu clustiau a’r trwyn a thyllu'r corff mewn rhan bersonol o’r corff
  • Electrolysis – dim ond yn berthnasol pan fydd nodwydd yn cael ei roi yn y croen
  • Tatŵio – gan gynnwys colur lled-barhaol (h.y. unrhyw therapi harddwch sy'n cynnwys rhoi deunyddiau lliwio yn y croen) yn ogystal â thatŵio traddodiadol

Rhaid i bob ymarferydd gael ei Drwydded Triniaethau Arbennig ei hun, a dim ond mewn mangre/cerbyd sydd wedi'i gymeradwyo gyda Thystysgrif Mangre Cymeradwy y mae gyda nhw hawl i weithredu.

  • Mae Trwydded Triniaethau Arbennig yn para am 3 blynedd
  • Mae Trwydded Mangre Cymeradwy yn para am 3 blynedd
  • Mae trwydded dros dro yn ddilys am gyfnod nad yw’n fwy na 7 diwrnod

Rhaid i unrhyw un sy'n cyflwyno cais am drwydded a/neu dystysgrifau cymeradwyo fod yn 18 oed neu’n hŷn a rhaid eu bod nhw’n meddu ar gymhwyster Atal a Rheoli Heintiau Lefel 2 cymeradwy er mwyn bod yn gymwys i ymgeisio.

Does dim hawl cyflawni unrhyw un o'r triniaethau uchod heb Drwydded Mangre Cymeradwy a Thrwydded Triniaethau Arbennig.

Dogfennau Ategol 

Rhaid cyflwyno dogfennau ategol ar gyfer Cais am Drwydded Ymarferydd gyda'r cais.

  • Ffi'r cais          
  • Un ffotograff lliw o'ch wyneb cyfan ar ffurf llun pasbort
  • Tystiolaeth o yswiriant dilys mewn perthynas â chynnal triniaeth arbennig
  • Tystiolaeth o dystysgrif datgeliad sylfaenol diweddar (gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
  • Datganiad o droseddau perthnasol (fel y nodir yn y Ddeddf)
  • Tystiolaeth o gyflawni dyfarniad Lefel 2 rheoleiddiedig yn llwyddiannus (atal a rheoli heintiau)
  • Gwiriad enw a dyddiad geni (e.e. pasbort, trwydded yrru, ac ati)
  • Gwiriad cyfeiriad preswyl cyfredol (e.e. trwydded yrru, llythyr Treth y Cyngor, bil cyfleustodau, ac ati)

Rhaid cyflwyno dogfennau ategol ar gyfer cais am Drwydded Mangre Cymeradwy gyda'r cais.

  • Cynllun gosodiad y fangre neu'r cerbyd (rhaid cynnwys mynedfa/allanfa'r fangre a mynediad i unrhyw ystafelloedd, mesuriad a siâp unrhyw ystafell yn y fangre a lleoliad sinciau offer, biniau eitemau miniog, ystafelloedd i'r staff, mannau/cyfleusterau/ystafelloedd storio ar gyfer cynhyrchion ac offer, toiledau, mannau/ystafelloedd aros, sinciau golchi dwylo, biniau gwastraff, ffenestri a gweithfannau)
  • Tystiolaeth o yswiriant dilys sydd gan yr ymgeisydd mewn perthynas â'r fangre neu'r cerbyd
  • Tystiolaeth o'r dyfarniad Lefel 2 rheoleiddiedig mewn atal a rheoli heintiau ar gyfer triniaethau arbennig
  • Os ydych chi'n trwyddedu cerbyd, rhaid darparu ffotograff lliw diweddar o'r cerbyd

Ffioedd Trwyddedau

Math o DrwyddedNewyddAdnewyddu

Trwydded Triniaethau Arbennig (Trwydded 3 blynedd)

 

£203

(£159 Cais £44 Cydymffurfio)

£189

(£148 Cais £41 Cydymffurfio)

Tystysgrif Mangre Cymeradwy (Trwydded 3 blynedd)

£385

(£244 Cais £141 Cydymffurfio)

£345

(£204 Cais £141 Cydymffurfio)

Amrywio Trwydded Triniaethau Arbennig (Ychwanegu Triniaeth)

£131

Amrywio Trwydded Triniaethau Arbennig (Newid Manylyn)

£26

Trwydded Newydd

£13

Trwydded Triniaethau Arbennig Dros Dro

£92

Amrywio Trwydded Mangre Cymeradwy ar gyfer Triniaethau Arbennig (Ychwanegu Triniaeth)

£189

Amrywio Trwydded Mangre Cymeradwy (Newid Strwythurol)

£189

Mangre Cymeradwy - Newid Manylyn

£26

Trwydded Newydd

£13

Cymeradwyo Mangre Cymeradwy Dros Dro (Achlysur Ategol)

£385

Cymeradwyo Mangre Cymeradwy Dros Dro (Confensiwn/Prif

Ddiben)

£680

Darllenwch y canllawiau sydd wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru cyn gwneud cais:

Triniaethau Arbennig: aciwbigo, electrolysis, tyllu'r corff a thatŵio | LLYW.CYMRU

Gwneud cais am Drwydded

Mae modd gwneud cais am Drwydded Mangre Cymeradwy a/neu Drwydded Triniaethau Arbennig drwy'r ddolen isod:

Yr hyn a fydd yn digwydd nesaf

Unwaith y bydd eich cais wedi dod i law, bydd swyddog yn cysylltu â chi i drefnu cyfweliad yn eich mangre i drafod eich cais ac asesu eich gweithdrefnau rheoli heintiau a'ch cydymffurfiaeth â'r amodau mandadol. Ar ôl cwblhau hyn, byddwch chi'n derbyn eich Tystysgrif Mangre Cymeradwy a/neu'ch trwydded a bathodyn Triniaethau Arbennig. Bydd eich manylion yn cael eu hychwanegu at y Gofrestr Genedlaethol o Ymarferwyr a Mangreoedd Cymeradwy: Cofrestr Gyhoeddus Triniaethau Arbennig (cliciwch ar ‘Cymraeg’).

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r:

Carfan Materion Bwyd ac Iechyd a Diogelwch

Tŷ Elái

Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

Rhif Ffôn: 01443 744283