Mae Deddf Loterïau a Difyrion 1976 (fel y'i diwygiwyd gan
Ddeddf y Loteri Genedlaethol etc. 1993) yn rheoli loterïau bychain, rafflau ac ati gan gymdeithasau sy'n codi arian ar gyfer elusennau, chwaraeon ac ati sy ddim er elw personol.
Os bydd loteri'n cael ei hyrwyddo ar ran cymdeithas sydd â'i phencadlys yn Rhondda Cynon Taf, y cam cyntaf fydd cofrestru ag Awdurdod Trwyddedu Rhondda Cynon Taf.
Cofrestru cymdeithas
Mae modd i'r Cyngor gofrestru cymdeithasau sydd wedi eu sefydlu ar gyfer un o'r dibenion canlynol:
- dibenion elusennol;
- cymryd rhan mewn gemau neu gampau athletaidd neu weithgareddau diwylliannol, neu eu cefnogi nhw;
- dibenion heb eu disgrifio ym mharagraff (1) neu (2) uchod sydd ddim er elw personol neu gyflawniad masnachol.
Os bydd cyfanswm y cyfleoedd sy'n cael eu gwerthu ar gyfer unrhyw loteri yn is nag £20,000, neu os bydd cyfanswm pob loteri sy'n cael ei chynnal yn ystod blwyddyn galendr yn is na £250,000, bydd rhaid i'r gymdeithas gofrestru â'r Cyngor.
Os bydd unrhyw gymdeithas yn dymuno cynnal loteri sy'n uwch na'r cyfansymiau hyn, bydd rhaid iddi gofrestru â'r Pwyllgor Gemau a hyrwyddo pob loteri arall (o bob maint) sy'n cael ei chynnal yn ystod y flwyddyn galendr honno neu'r tair blwyddyn galendr ddilynol yn unol â chofrestriad y Pwyllgor. Fydd dim modd i'r gymdeithas newid i gofrestriad awdurdod lleol yn ystod y cyfnod hwnnw.
Bydd rhaid gwneud cais cofrestru i'r Cyngor, ac mae modd i dystysgrif gael ei chyflwyno, oni bai:
- y bydd hi'n ymddangos bod y gymdeithas heb gael ei sefydlu ar gyfer diben sy'n caniatáu cofrestru;
- y bydd y Pwyllgor Gemau wedi gwrthod neu ddiddymu cofrestriad y gymdeithas yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf (ac eithrio achosion o wrthod ar sail peidio â thalu ffioedd);
- y bydd unigolyn, sy'n gysylltiedig â'r loteri, wedi ei gael yn euog o:
- trosedd dan adrannau 2 neu 13 Deddf Loterïau a Difyrion 1976; neu
- trosedd dan baragraff 14 o Atodlen 1, paragraff 14 o Atodlen 1A, paragraff 8 neu 9 o Atodlen 2, neu baragraff 12 o Atodlen 2A y Ddeddf, neu baragraff 12 o Atodlen 7 Deddf Betio, Gamblo a Loterïau 1963; neu
- trosedd dan adrannau 42 neu 45 Deddf 1963; neu
- trosedd sy'n ymwneud â thwyll neu anonestrwydd;
y bydd gwybodaeth ffug wedi ei rhoi gan y gymdeithas ynglŷn â'i chais cofrestru.
Os bydd y Cyngor yn bwriadu gwrthod cofrestru unrhyw gymdeithas, bydd rhaid rhoi cyfle i'r gymdeithas ddweud ei dweud, a rhoi gwybod i'r gymdeithas am ei benderfyniad ymhen amser. Yn y pen draw, os bydd cofrestriad yn cael ei wrthod, bydd hawl gan y gymdeithas i gyflwyno apêl i Lys y Goron, ac eithrio achosion o wrthod neu ddiddymu cofrestriad gan y Pwyllgor Gemau.
Os bydd y gymdeithas yn cael ei chofrestru, mae modd i'r Cyngor benderfynu yn ddiweddarach y dylai'r cofrestriad gael ei ddiddymu os bydd y gymdeithas yn peidio â bodloni darpariaethau adran 5 o'r Ddeddf neu os bydd unrhyw unigolyn yn euog o drosedd sydd wedi ei nodi uchod. Mewn achosion o'r fath, bydd gweithdrefnau gwrthod cofrestriad yn berthnasol.
Wrth wneud cais am gofrestriad, bydd rhaid i'r gymdeithas dalu ffi gofrestru. Bydd pob cofrestriad yn dod i ben ar 31 Rhagfyr bob blwyddyn. Os bydd unrhyw gymdeithas yn dymuno parhau â'r cofrestriad, bydd rhaid iddi dalu ffi adnewyddu ar 1 Ionawr y flwyddyn ddilynol, neu cyn hynny. Dyma'r ffioedd ar hyn o bryd:
- Cofrestriad cychwynnol – £40.00
- Bob blwyddyn ganlynol – £20.00
Mae modd i unrhyw gymdeithas gyflogi rheolwr loteri allanol i gynnal loteri ar ei rhan. Dyma'r unigolion a fydd yn cael rheoli loteri ar ran cymdeithas:
- aelod o'r gymdeithas;
- un o weithwyr y gymdeithas;
- cwmni dan berchnogaeth lwyr y gymdeithas;
- unigolyn sydd wedi ei drwyddedu'n rheolwr loterïau gan y Pwyllgor Gemau dan adran 2A o'r Ddeddf;
- unigolyn sy'n cael ei gyflogi gan reolwr loterïau trwyddedig ac sy'n gweithredu yn unol â'i gyflogaeth.
Dylai ceisiadau am gofrestru rheolwyr loterïau gael eu gwneud i'r Pwyllgor Gemau.
Ffurflen elw loteri
Ar ôl cynnal loteri, bydd rhaid i'r hyrwyddwr lenwi ffurflen elw a'i hanfon i'r Cyngor cyn diwedd y trydydd mis ar ôl dyddiad y loteri. Bydd rhaid i'r ffurflen elw gael ei hardystio gan ddau o aelodau'r gymdeithas (ac eithrio'r hyrwyddwr) sy'n 18 oed neu'n hŷn ac sydd wedi eu penodi yn ysgrifenedig gan gorff llywodraethu'r gymdeithas. Bydd ffurflen elw ynghlwm wrth y dystysgrif gofrestru a fydd yn cael ei hanfon at bob cymdeithas. Bydd rhagor o ffurflenni ar gael gan y Cyngor.
Mae modd i Archwilwyr Trwyddedu awdurdodedig y Cyngor ei gwneud hi'n ofynnol i'r gymdeithas ganiatáu iddyn nhw archwilio unrhyw ddogfennau a gwybodaeth sy'n ymwneud â loterïau sy'n cael eu hyrwyddo ar ran y gymdeithas, a chymryd copïau ohonyn nhw. Mae modd iddyn nhw hefyd ei gwneud hi'n ofynnol i'r gymdeithas roi cymorth iddyn nhw yn ôl yr angen er mwyn eu galluogi nhw i archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw ddarnau cysylltiedig o offer neu ddeunydd sy'n cael eu defnyddio, neu sydd wedi cael eu defnyddio, wrth gadw gwybodaeth.
Amodau sy'n berthnasol i gymdeithasau wedi eu cofrestru â'r Cyngor
Fydd ddim modd i gyfanswm gwerth y gwobrau sy'n cael eu cynnig fod yn uwch na 55% o elw'r loteri, oni bai bod modd dangos bod yr elw'n llai na'r amcangyfrif.
Bydd rhaid i gyfanswm yr elw sy'n cael ei drosglwyddo i dreuliau (ac eithrio gwobrau) beidio â bod yn uwch na'r treuliau go iawn neu 35% o'r elw, pa bynnag swm yw'r isaf, oni bai bod modd dangos bod yr elw yn llai na'r amcangyfrif.
Bydd rhaid i hyrwyddwr y loteri fod yn aelod o'r gymdeithas gydag awdurdod ysgrifenedig gan gorff llywodraethu'r gymdeithas i hyrwyddo'r loteri.
I osgoi dryswch, ni ddylai dwy loteri gael eu cynnal ar yr un dyddiad; ond, os bydd cymdeithas yn cynnal dwy loteri ar yr un dyddiad, bydd rhaid gwahaniaethu trwy gael rhifau cyfresol gwahanol ar y tocynnau.
Bydd rhaid i bob tocyn nodi enw'r gymdeithas, enw a chyfeiriad yr hyrwyddwr a dyddiad y loteri. Os bydd unrhyw docyn yn cyfeirio at unigolyn sy'n gweithredu neu'n cynorthwyo, neu sydd wedi gweithredu neu gynorthwyo, o ran hyrwyddo'r loteri, a gwneud hynny am dâl, bydd rhaid i faint y llythrennau beidio â bod yn llai na'r llythrennau lleiaf sy'n nodi enw'r gymdeithas.
Bydd rhaid i bob tocyn nodi bod y gymdeithas wedi cofrestru â'r Cyngor.
Ni chaiff unrhyw docyn neu gyfle gael ei werthu i unigolyn dan 16 oed.
Ni chaiff unrhyw docyn gael ei werthu i unrhyw unigolyn mewn unrhyw stryd (ac eithrio o giosg neu siop sydd heb le i gwsmeriaid ar y safle).
Ni chaiff unrhyw docyn gael ei werthu o siopau betio trwyddedig.
Ni chaiff unrhyw docyn neu gyfle gael ei werthu am dros £2, a rhaid codi’r un pris am bob tocyn ac argraffu’r pris ar y tocyn.
Ni chaiff unrhyw wobr gael ei chynnig ar yr amod bod ennill gwobr yn dibynnu ar brynu mwy nag un tocyn neu gyfle, oni bai bod cyfanswm pris y cyfleoedd sydd eu hangen i ennill gwobr ddim yn uwch na £2.
Ni chaiff unrhyw unigolyn gymryd rhan mewn loteri, ac eithrio ar ôl talu pris llawn am docyn neu gyfle, ac ni chaiff unrhyw arian wedi ei dderbyn am docyn neu gyfle, neu ar gyfer tocyn neu gyfle, gael ei ddychwelyd.
Ni chaiff unrhyw arian, ac eithrio pris y tocyn neu'r cyfle, gael ei dderbyn yn amod ar gymryd rhan mewn loteri.
Bydd rhaid i'r holl elw, ar ôl tynnu treuliau dilys neu arian wedi ei ddyrannu i wobrau, gael ei ddyrannu i ddibenion y gymdeithas.
Ni chaiff unrhyw unigolyn, sy'n cyflenwi tocynnau loteri, eu cyflenwi nhw mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n bosibl adnabod tocyn buddugol cyn iddo gael ei werthu. Mae hyn yn berthnasol i docynnau (sydd, fel arfer, yn cael eu galw'n docynnau ‘loteri sydyn’) sy'n cuddio geiriau, ffigurau, symbolau ac ati a fyddai, ar ôl eu dadorchuddio, yn dangos a yw'r tocyn yn fuddugol ai peidio.
Mae modd i wobrau gael eu rhoi i loteri am bris rhatach neu am ddim, ond ni chaiff gwerth gwobrau o'r fath fod yn uwch na £25,000.
Bydd rhaid i'r gymdeithas gymeradwyo cynllun sy'n hyrwyddo unrhyw loteri a bydd rhaid i unrhyw gynllun, neu addasiad iddo, gydymffurfio â darpariaethau Atodlen 2 Rheoliadau Loterïau 1993.
Troseddau a chosbau
Bydd torri unrhyw un o amodau cofrestru'r gymdeithas yn drosedd, a bydd yr hyrwyddwr (oni bai fod y drosedd ddim yn hysbys iddo), ac unrhyw unigolyn sydd â rhan yn nhorri'r amodau, yn agored i gael ei erlyn. Yn dilyn euogfarn ddiannod, mae'n bosibl y bydd yr unigolion dan sylw dderbyn dirwy o hyd at £5,000. Yn dilyn euogfarn ar gyhuddiad, mae'n bosibl y bydd yr unigolion dan sylw yn cael eu dedfrydu i hyd at ddwy flynedd yn y carchar, neu ddirwy, neu'r ddwy gosb.
Mae'n bosibl y bydd unigolyn a fydd wedi ei gael yn euog o fethu â llenwi ffurflen elw a'i hanfon at y Cyngor o fewn tri mis i ddyddiad y loteri, neu wedi ei gael yn euog o ffugio ffurflen elw, fod yn agored i ddirwy o hyd at £5,000 yn dilyn euogfarn ddiannod neu hyd at ddwy flynedd yn y carchar, neu ddirwy, neu'r ddwy gosb, yn dilyn euogfarn ar gyhuddiad.
Rhagor o wybodaeth
Mae copïau o Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976, a deddfwriaethau eraill sydd wedi eu nodi yma, ar gael o Lyfrfa Ei Mawrhydi.
Mae modd gweld copi o Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 yn Swyddfeydd y Cyngor. Mae modd i chi hefyd gael ffurflen gais, ffurflen elw a rhagor o gymorth neu gyngor yno.
Sut mae gwneud cais?
Mae ffurflenni cais ar gael trwy gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.
Carfan Trwyddedu
Tŷ Elái,
Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301