Mae Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 yn disodli'r gofynion blaenorol ar gyfer delwyr metel sgrap a gweithredwyr achub cerbydau modur. Daeth i rym ar 1 Hydref 2013 ac, ers hynny, mae angen cyflwyno ceisiadau am drwydded safle a thrwydded deliwr teithiol o dan y ddeddfwriaeth newydd yma.
Roedd gan y rhai oedd wedi cofrestru cyn 1 Hydref 2013 dan y ddeddfwriaeth flaenorol, sef Deddf Delwyr Metel Sgrap 1964 a Deddf Cerbydau (Troseddau) 2001, hyd at 15 Hydref 2013 i wneud cais am drwydded dan y ddeddfwriaeth newydd er mwyn parhau i fod yn drwyddedig hyd nes y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â'r cais hwnnw.
Daeth y ddeddfwriaeth newydd i rym yn llawn ar 1 Rhagfyr 2013. Erbyn hyn, mae disgwyl i'r holl ddelwyr gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth a dylai'r rhai sydd angen rhagor o wybodaeth gysylltu â'r uned trwyddedu.
Yn gryno, dyma'r hyn mae'r ddeddfwriaeth newydd yn ei gynnig:
- Bydd delwyr metel sgrap a gweithredwyr achub cerbydau modur yn cael eu hystyried yn ‘ddelwyr metel sgrap’ a bydd disgwyl iddyn nhw gadw at y ddeddfwriaeth.
- Proses ymgeisio fwy manwl am drwyddedau, gan gynnwys ymgynghori â'r Heddlu a Chyfoeth Naturiol Cymru (Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, gynt).
Bydd dau fath o drwydded:
Trwydded safle (mae'n bosibl i ddelwyr gael nifer o safleoedd y tu mewn i ffiniau'r Cyngor)
Mae ‘safle’ yn unrhyw le sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer busnes delwyr metel sgrap; mae'n bosibl i ddeiliaid trwydded safle gasglu metel sgrap, ond ar ôl trefnu ymlaen llaw yn unig.
Trwydded casglwr teithiol (mae angen trwyddedau gwahanol ar gyfer casglu yn ardaloedd y Cynghorau gwahanol)
Mae rhaid i gasglwyr teithiol beidio â defnyddio safle ar gyfer gweithredu eu busnesau metel sgrap, ond mae'n bosibl iddyn nhw gasglu metel sgrap heb drefnu ymlaen llaw. Mae angen trwyddedu gwahanol er mwyn casglu metel sgrap mewn ardaloedd gwahanol.
Pŵer i'r Cyngor wrthod neu ddiddymu trwydded, neu osod amodau lle y bo'n briodol, yn amodol ar yr hawl i gyflwyno sylwadau cyn gwrthod, diddymu neu osod amodau (mae'r rhain wedi'u cyfyngu i amseroedd gweithio a'r disgwyl i fetel gael ei gadw yn ei ffurf wreiddiol am o leiaf 72 awr).
Rhaid arddangos y drwydded ar y safle neu ar gerbyd y casglwr teithiol er mwyn i'r cyhoedd ei darllen. Rhaid i werthwyr ddangos cerdyn adnabod personol (cerdyn adnabod â llun) adeg gwerthu – rhaid i'r deliwr gadw cofnod o fanylion y cerdyn adnabod.
Fydd hi ddim yn bosibl prynu metel sgrap ag arian parod dan unrhyw amgylchiadau – rhaid talu â siec neu drosglwyddo arian mewn dull electronig.
Bydd pŵer gan yr Heddlu a'r Cyngor i arolygu safleoedd a chofnodion ynglŷn â thrafodion metel sgrap.
Bydd cofrestr ganolog o drwyddedau yn cael ei chadw ar-lein gan Gyfoeth Naturiol Cymru (Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, gynt).
Mae ffioedd ar gyfer ceisiadau yn cael eu gosod gan Gynghorau unigol.
Hysbysiad Cau (gan yr Heddlu neu'r Cyngor) ar gyfer safleoedd sydd heb drwydded; Gorchymyn Cau (trwy Lys yr Ynadon) os yw'r safle yn parhau i gael ei ddefnyddio ar ôl saith niwrnod.
Bydd Canllawiau Statudol gan y Swyddfa Gartref i gyd-fynd â'r ddeddfwriaeth.
Cefndir
Mae Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 yn disodli Deddf Delwyr Metel Sgrap 1964 a Rhan 1 o Ddeddf Cerbydau (Troseddau) 2001 (gweithredwyr achub cerbydau modur).
Yn ogystal â chael trwydded dan Ddeddf 2013, mae'n bosibl y bydd angen y canlynol:
- Trwydded rheoli gwastraff neu drwydded gwastraff peryglus gan Gyfoeth Naturiol Cymru (Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, gynt).
- Cofrestru'r busnes gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
- Caniatâd cynllunio ar gyfer defnyddio unrhyw safle sy'n gysylltiedig â'r busnes.
- Tystysgrif Datgeliad Sylfaenol - Mae modd i chi wneud cais am dystysgrif drwy unrhyw Sefydliad Cyfrifol gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) er mwyn cyflwyno gwiriadau sylfaenol ar y we. (Byddwn ni dim ond yn derbyn Tystysgrifau Gwiriad Sylfaenol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gafodd eu cyhoeddi llai na 3 mis yn ôl).
Mae modd dod o hyd i restr o Sefydliadau Cyfrifol sy'n darparu gwasanaeth gwirio drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar wefan: https://www.gov.uk/guidance/responsible-organisations
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch y Swyddogion Trwyddedu ar 01443 425001 neu anfonwch neges e-bost i adran.trwyddedau@rhondda-cynon-taf.gov.uk