Ein Gweledigaeth
Rydyn ni'n anelu at ddarparu gwybodaeth a chyngor o safon uchel i gwsmeriaid, ni waeth sut rydych chi'n cysylltu â ni.
Ein Haddewidion
Pan rydych chi'n defnyddio'n gwasanaethau, byddwn ni'n...
- Cwrtais, boneddigaidd ac o gymorth.
- Agored, gonest ac yn esbonio ein penderfyniadau.
- Delio â chi mewn modd parchus a proffesiynol.
- Ymateb i anghenion amrywiol ein cwsmeriaid, gan addasu ein dulliau pan fo'i angen.
- Darparu gwybodaeth mewn ffordd glir a hawdd i'w deall.
- Gwrando ar adborth ac unrhyw syniadau sydd gennych chi ar sut i wella ein gwasanaeth.
- Gwerthfawrogi a pharchu amrywioldeb ein cwsmeriaid, a cheisio cwrdd ag anghenion unigolion.
- Sicrhau bod ein gweithwyr wedi derbyn digon o hyfforddiant fel eu bod nhw'n gallu rhoi'r cyngor a chymorth sydd eu hangen.
- Ymddiheuro os yw pethau'n mynd o chwith, a gwneud ein gorau glas i wneud iawn.
Ein hamcanion a'n safonau
Wrth ddefnyddio'n gwefan rydyn ni'n bwriadu...
- Darparu gwasanaeth 24 awr ar www.rctcbc.gov.uk o leiaf 99% o'r amser
- Darparu gwybodaeth a rheolaethau ar gyfer Gwasanaethau allweddol y Cyngor.
- Sicrhau bod o leiaf 80% o Ymholiadau Cwsmeriaid yn cael eu datrys drwy'r wefan.
- Sicrhau bod o leiaf 80% o Gwsmeriaid yn hapus gyda'r gwasanaeth.
Wrth ddelio â chi dros y Ffôn rydyn ni'n bwriadu...
- Ateb y galwad o fewn 188 eiliad ar gyfartaledd.
- Hysbysu cwsmeriaid o'n gwasanaeth mewn argyfwng a thu allan i oriau swyddfa ac ymateb o fewn 30 eiliad pan rydyn ni ar gau.
- Sicrhau bod o leiaf 90% o Ymholiadau Cwsmeriaid yn cael eu datrys gan y pwynt cyswllt cyntaf.
- Sicrhau bod o leiaf 93% o Gwsmeriaid yn fodlon.
Wrth ddelio â chi yn bersonol, rydyn ni'n bwriadu...
- Darparu mynediad at gyngor a gwybodaeth mewn amgylchedd 'siop un stop' diogel a chroesawus
- Cynnig apwyntiadau un wrth un o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl trefnu'r apwyntiad, a'ch gweld chi ar yr amser y cytunwyd arno.
- Sicrhau bod o leiaf 93% o Ymholiadau Cwsmeriaid yn cael eu datrys gan y pwynt cyswllt cyntaf.
- Sicrhau bod o leiaf 93% o'n Cwsmeriaid yn fodlon.
Os ydych chi'n anfon e-bost rydyn ni'n bwriadu...
- Anfon ymateb cydnabod awtomatig.
- Adolygu a throsglwyddo'ch cais i'r adran berthnasol o fewn 5 diwrnod gwaith.
- Yn ogystal â hyn, byddwn ni'n darparu'r cyfeirnod achos i chi.