Skip to main content

Pryderon neu gwynion am y ffordd y mae'r Cyngor yn trin eich gwybodaeth bersonol

Mae hawl gyda chi i deimlo'n hyderus bod y Cyngor yn trin eich gwybodaeth bersonol yn gyfrifol ac yn unol ag arfer da. Os oes ymholiad, pryder neu gŵyn gyda chi am y ffordd y mae'r Cyngor yn trin eich gwybodaeth, gofynnwn ichi godi'r mater gyda'r Cyngor yn gyntaf a rhoi cyfle inni wella pethau.

Gwneud ymholiad anffurfiol

Os oes ymholiad cyffredinol gyda chi am y ffordd y mae'r Cyngor yn trin eich gwybodaeth bersonol, gofynnwn ichi godi'r mater yn gyntaf gyda'r gwasanaeth y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef. Mae modd datrys y mwyafrif o ymholiadau yn gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost i'r gwasanaeth.

Codi pryder / gwneud cwyn ffurfiol

Byddwn yn cofnodi, delio â’r holl bryderon neu gwynion ffurfiol am y ffordd y mae'r Cyngor yn trin eich gwybodaeth bersonol, ac yn ymateb iddyn nhw, yn unol â Pholisi Cwynion y Cyngor.

Edrychwch ar Bolisi Cwynion a Phryderon y Cyngor

Sut i wneud cwyn

Mae modd mynegi pryder neu wneud cwyn am y ffordd y mae'r Cyngor yn trin eich gwybodaeth bersonol yn yr iaith o'ch dewis a thrwy ystod o sianeli:

  • Ffurflen gwynion ar-lein:
Ffurflen Sylwadau, Canmoliaeth a Chwynion
  • E-bostiwch ni: adborth@rctcbc.gov.uk
  • Ffoniwch ni: 01443 425005
  • Ysgrifennwch aton ni: Adborth Cwsmeriaid, CBSRhCT, Bronwydd, Porth, RhCT, CF39 9DL
  • Dewch i un o'n Canolfannau IBobUn (efallai bydd angen apwyntiad)
  • Gofynnwch am gopi o'n ffurflen gwynion gan yr aelod o staff rydych chi mewn cysylltiad ag e'n barod. Rhowch wybod eich bod chi eisiau i ni ddelio â'r mater yn ffurfiol.

Ceisio cyngor annibynnol

Os ydych chi eisoes wedi dilyn prosesau'r Cyngor i gyd, ac yn parhau i fod â phryderon am y ffordd mae'ch gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin, mae hawl gyda chi i wneud cwyn a / neu ofyn am gyngor ac arweiniad gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Mae modd dod o hyd i'r wybodaeth  ddiweddaraf ynglŷn â sut i gysylltu drwy'r ICO