Oes gyda chi bryder ynghylch cael mynediad at un o wasanaethau'r Cyngor? Dewch i'n sesiynau Galw Heibio i Bobl Anabl!
Mae croeso i holl drigolion anabl RhCT, neu drigolion sydd â diddordeb mewn anableddau neu hygyrchedd yn yr ardal, alw heibio i'r sesiynau yma. Mae ein sesiynau galw heibio yn darparu man cefnogol lle mae modd i chi rannu unrhyw bryderon am rwystrau y gallech eu hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau'r Cyngor.
Bydd ein sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Rhondda Cynon Taf.
- Dydd Llun 13 Ebrill 2026 yn Llyfrgell Treorci rhwng 1.30pm a 3.30pm
- Dydd Gwener 17 Ebrill 2026 yn Llyfrgell Rhydfelen rhwng 2.00pm a 4.00pm
- Dydd Gwener 19 Mehefin 2026 yn Llyfrgell Aberdâr rhwng 11.30am a 1.30pm
- Dydd Iau 20 Awst 2026 yn Llyfrgell Abercynon rhwng 10.30am a 12.30pm
- Dydd Gwener 23 Hydref 2026 yn Llyfrgell y Porth rhwng 11.30am a 1.30pm
- Dydd Iau 3 Rhagfyr 2026 yn Llyfrgell Aberpennar rhwng 10.30am a 12.30pm
- Dydd Iau 10 Rhagfyr 2026 yn Llyfrgell Glynrhedynog rhwng 11.30am a 1.30pm
Newidiadau, sesiynau wedi'u canslo a sesiynau ychwanegol
Gwiriwch y dudalen yma'n rheolaidd i weld gwybodaeth ynglŷn â newidiadau, sesiynau ychwanegol neu sesiynau sydd wedi'u canslo.
Mae modd i chi hefyd wirio tudalen Facebook y Cyngor am y newyddion diweddaraf.
Beth yw Sesiwn Galw Heibio i Bobl Anabl?
Mae ein sesiynau galw heibio yn darparu man cefnogol lle mae modd i chi rannu unrhyw bryderon am rwystrau rydych chi wedi'u hwynebu wrth gael mynediad at wasanaethau'r Cyngor.
Beth sy'n digwydd yn y sesiynau yma?
Pan fyddwch chi'n cyrraedd, byddwch chi'n gallu siarad ag aelod o garfan Amrywiaeth a Chynhwysiant y Cyngor.
Efallai bydd swyddogion y garfan yn gwneud nodiadau er mwyn rhannu manylion eich pryderon â'r maes gwasanaeth perthnasol. Mae'n bosibl y byddan nhw hefyd yn gofyn am eich manylion cyswllt er mwyn eich diweddaru chi am eich pryder (os oes angen).
Ydy'r sesiynau yma'n hygyrch?
Mae pob sesiwn yn cael ei chynnal mewn Llyfrgell neu Ganolfan Chwaraeon yn RhCT, a byddan nhw bob tro'n hygyrch ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae croeso i chi ddod â chynhaliwr, aelod o'r teulu neu ffrind gyda chi i'r sesiynau yma, ac mae croeso i chi ddod ag unrhyw offer llonyddu neu gynhalwyr synhwyraidd sydd eu hangen gyda chi.
Hoffech chi wybod rhagor?
Pe hoffech chi ragor o wybodaeth, eisiau gofyn cwestiwn, neu drafod unrhyw addasiadau sydd eu hangen arnoch chi, mae croeso i chi gysylltu â'r garfan Amrywiaeth a Chynhwysiant trwy e-bostio cydraddoldeb@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 444529.