Skip to main content

Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia (IDAHOBIT)

17 Mai yw'r Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia. Wedi'i sefydlu yn 2014, mae IDAHOBIT yn nodi ac amlygu'r trais, gwahaniaethu a cham-drin sy'n aml yn cael eu dioddef gan bobl y gymuned LHDTC+ drwy'r byd i gyd.

Yn y blynyddoedd diweddar, yn anffodus, mae digwyddiadau casineb yn erbyn pobl LHDTC+ ar gynnydd, hyd yn oed mewn gwledydd fyddai'n ystyried eu hunain yn flaengar ac yn groesawgar.

Wrth ystyried y DU yn unig, mae cynnydd wedi bod yn y grwpiau sydd am ledaenu negeseuon gwahaniaethol yn erbyn sawl grŵp, nid yn unig rhai o fewn y gymuned LHDTC+.

Mae'n bwysig cydnabod y gall gwahaniaethu gyflwyno'i hun mewn sawl ffordd – gall fod yn gynnil ac yn ochelgar, gall gynnwys rhwystro mynediad i wasanaethau cymorth, gofal iechyd, a gwybodaeth.

Mae pobl yn cyflawni'n well wrth ddangos pwy ydyn nhw. Fel Cyngor rydyn ni'n hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch ar gyfer pob aelod o'n staff ac mae gyda ni Bolisi Urddas yn y Gwaith sy'n annog hyn. Os ydych chi'n teimlo eich bod chi wedi dioddef aflonyddu yn y gweithle yna cysylltwch â'r Garfan Amrywiaeth a Chynhwysiant. Pe hoffech chi ragor o wybodaeth am y Polisi Urddas yn y Gwaith, mae modd i chi ei ddarllen ar Inform.

Wrth godi ymwybyddiaeth dros faterion sy'n effeithio ar bobl LHDTC+ a thrwy herio ymddygiad gwahaniaethol neu roi gwybod amdano, gallwn ni gefnogi ein cyfeillion a chydweithwyr a chreu gweithle a chymdeithas fwy cynhwysol.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia, Deuffobia a Thrawsffobia ewch i wefan IDAHOBIT yma.

Mae gyda'r Cyngor nifer o rwydweithiau staff ar gael hefyd i ymuno â nhw, gan gynnwys ein rhwydwaith LHDTC+, Perthyn. Pe hoffech chi ymuno â'n rhwydweithiau staff neu drafod unrhyw beth yn yr erthygl yma, e-bostiwch y Garfan Amrywiaeth a Chynhwysiant: cydraddoldeb@rctcbc.gov.uk.