Sail yr Arfbais yw’r arwydd ‘Aur, Tri Sieffrwn Coch’, sydd i’w weld yn rhan isaf y darian. Dyma oedd arwyddlun teulu Clare, oedd yn Arglwyddi Morgannwg yn yr Oesoedd Canol.
Mae’r tonnau yn rhan uchaf y Darian yn dod o Arfbais hen Gyngor Bwrdeistref Cwm Cynon, ac yn cyfeirio at yr afonydd lleol. Daw’r ddwy fesen o Arfbais hen Gyngor Bwrdeistref y Rhondda: maen nhw’n cyfeiro at y coedwigoedd hynafol fu’n tyfu yno, ac hefyd at dwf y diwydiannau newydd. Daw’r goron wybrennol o Arfbais hen Gyngor Bwrdeistref Taf Elái. Roedd hwnnw wedi benthyca’r arwyddlun yn ei dro o hen Gyngor Dosbarth Gwledig Llantrisant a Llanilltud Faerdref.
Symbol Cymru, y Ddraig Goch, yw’r Arflun ar frig yr Arfbais. Fel hanner-draig mae hi’n ymddangos yma, yn cyfeirio at Arfluniau’r hen Gynghorau a ddaeth at ei gilydd i ffurfio’r Awdurdod newydd. Mae hi’n codi o’r fflamau, yn arwydd o adnewyddu diwydiant, ac mae’r fellten yn ei chrafangau yn symbol o’r dechnoleg newydd.
Technegydd labordy yw’r Cynhaliad sy’n ein hwynebu o Ochr Dde’r Darian. Mae ef yn cynrychioli’r ffurfiau newydd ar ddiwydiant a ddeuai i’r ardal. Glöwr yw’r Cynhaliad sy’n ein hwynebu o’r Ochr Chwaith. Daw o Arfbais hen Gyngor Sir Morgannwg Ganol. Mae’n cynrhychioli treftadaeth ddiwydiannol Cymoedd y De.
Dyma arfbais sy’n cyfeirio at dair rhan yr Awdurdod newydd, yn dathlu cof yr hen ddiwydiannau trwm, ac yn edrych tuag at y dyfodol a’i dechnoleg newydd. Mae'r arwyddair Lladin, ‘Adsumus Ut Adiuvemus’, yn golygu ‘Rydyn ni yma i helpu’.