Cyllid UE: Buddsoddi yng Nghymru
Ariannwyd gan:
Blaenoriaeth Cysylltedd a Datblygu Trefol y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop 2014 - 2020. Gydag arian cyfatebol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru.
Disgrifiad o'r Prosiect:
Mae'r prosiect yn cael ei gyflwyno gan Gytundeb Menter ar y Cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Gwaith arfaethedig i godi adeilad diwydiannol 2,787m2 (30,000 troedfedd sgwâr) a swyddfeydd cysylltiedig, gyda hyblygrwydd yng nghynllun y fenter i'w ehangu yn y dyfodol. Mae'r datblygiad ar safle'r hen lofa yng Nghoed-elái a Golosgfa Coed-elái, Tonyrefail. Mae'r datblygiad ar ran o lain ar lwyfan ganol safle llawer mwy o faint, sy'n berchen i Lywodraeth Cymru.
Nodau ac amcanion:
Y prif amcan yw cynyddu'r cyfleoedd cyflogaeth drwy fuddsoddi mewn seilwaith lleol neu ranbarthol sydd wedi'i flaenoriaethu, gan gefnogi strategaeth economaidd drefol neu ranbarthol. Bydd hyn yn arwain at ragor o gyfleoedd cyflogaeth a thwf economaidd yn y rhanbarth.
For more information regarding European Funding please visit: www.gov.Wales/eu-funds