Skip to main content

Tour de France - Cwestiynau Cyffredin

Tour-De-France
Bydd Rhondda Cynon Taf yn chwarae rhan bwysig wrth i'r Tour de France ddod i Brydain ym mis Gorffennaf 2027. Mae'r Fwrdeistref Sirol wedi'i dewis i gynnal llwybr mewn cymal o'r achlysur beicio byd-enwog. Ar y dudalen yma, bydd modd i drigolion, busnesau ac ymwelwyr gael atebion i Gwestiynau Cyffredin. Ein nod fydd diweddaru'r dudalen yma dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Beth yw Grand Départ y Tour de France 2027?

Yr haf nesaf (2027), bydd dechrau'r Tour de France – a elwir y Grand Départ – ym Mhrydain. Ystyr hyn yw bydd achlysur chwaraeon blynyddol mwyaf y byd yn dod i'n gwlad, a bydd yn cynnwys y timau a'r beicwyr proffesiynol gorau. Rydyn ni'n disgwyl iddo fod yr achlysur chwaraeon mwyaf sydd ar gael i'w wylio am ddim yn hanes y DU, gyda miloedd o wylwyr yn cefnogi'r beicwyr ar y stryd.

Pryd mae'n dod i Rondda Cynon Taf?

Bydd cymal Cymru o'r Grand Départ ddydd Sul, 4 Gorffennaf, 2027. Caiff y cymal ei gynnal o'r Trallwng (Welshpool) i Gaerdydd, a bydd y cystadleuwyr yn beicio trwy Rondda Cynon Taf.

Beth yw llwybr y ras drwy Rondda Cynon Taf?

Bydd y llwybr yn dechrau ym Mhenderyn/Rhigos yng ngogledd y sir, ac yn parhau tuag at Dreherbert, Treorci ac Aberdâr, trwy'r cymunedau cyfagos. Bydd hefyd yn cynnwys tair dringfa heriol i'r beicwyr yn Côte de Rhigos, Côte de Penrhys a Côte de Maerdy. Yno, bydd cyfle i fwynhau'r dirwedd fynyddig hardd. Fe gewch weld llwybr y Grand Départ yn fwy manwl ar y wefan – gan ddefnyddio’r ddolen yma, ewch i’r adran ‘Stages of the Grand Départ’ a sgroliwch i lawr i ‘Stage 3, Welshpool to Cardiff’ am wybodaeth lawn.

Beth yn union fydd yn digwydd?

Sioe anhygoel, liwgar wrth i achlysur chwaraeon blynyddol mwyaf y byd ddod i Brydain Fawr. Bydd yn cyfuno achlysur cyflym ei naws a chwaraeon o'r radd flaenaf, a bydd yn cynnig awyrgylch addas i deuluoedd, am ddim. Bydd y cerbydau hyrwyddo enwog yno cyn y ras. Am ddwy awr, bydd y Tour de France a’i bartneriaid yn cynnig tipyn o sioe, gan ddosbarthu llawer o anrhegion. Bydd y gwylwyr wedi'u syfrdanu, yn llawenhau ac wedi'u diddanu wrth iddyn nhw aros i’r beicwyr fynd heibio!

Pa mor hir fydd yr achlysur yn para?

Bydd yn digwydd drwy'r dydd, ddydd Sul, 4 Gorffennaf. Rydyn ni'n falch iawn bydd Rhondda Cynon Taf yn llwybr cynnal ar gyfer yr achlysur byd-enwog yma, ac mae'r Fwrdeistref Sirol ar fin elwa o hwb economaidd a thwristiaeth enfawr. Er enghraifft, cynhyrchodd Grand Départ 2014 yn Swydd Efrog werth tua £131 miliwn mewn buddion economaidd – ac rydyn ni'n disgwyl i achlysur 2027 ragori ar hynny. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod trigolion yn effro i'r ffaith bydd angen cau'r llwybr cyfan i draffig ar gyfer y ras a'r dathliadau ehangach, a fydd yn digwydd drwy'r rhan fwyaf o'r diwrnod.

Beth yw'r union amseriadau ar gyfer y ras?

Dydyn nhw ddim wedi'u cyhoeddi eto, ond fel arfer bydd pob cymal yn dechrau tua amser cinio (11am-2pm) ac yn gorffen tua 4-5pm, gan ddibynnu ar hyd y cymal. Yn nes at y ras, bydd amseroedd cychwyn a gorffen ar gyfer pob cymal yn cael eu cyhoeddi a'u rhestru ar amserlen fanwl. Bydd hyn yn cynnig amseroedd cyrraedd amcangyfrifedig ar hyd pob llwybr ar gyfer y ras a'r cerbydau hyrwyddo a fydd yno cyn pob cymal.

Beth fydd y trefniadau traffig ar y llwybr a'r ardaloedd cyfagos?

Bydd angen cau llawer o ffyrdd ar hyd pob un o'r cymalau, a bydd pob cerbyd wedi'i barcio yn cael ei symud. Bydd hyn yn amddiffyn y beicwyr a'r gwylwyr. Bydd mesurau rheoli traffig dros dro ar waith, gan gynnwys gwyriadau, er mwyn cynnig llwybrau amgen i ddefnyddwyr ffyrdd. Caiff manylion llawn y ffyrdd sydd ar gau, y ffyrdd wedi'u heffeithio, ac amseroedd cau'r ffyrdd eu cyhoeddi ar letourgb.com yn yr wythnosau nesaf a chaiff trigolion a busnesau wybod amdanyn nhw. Bydd y Cyngor hefyd yn defnyddio ei sianeli cyfathrebu ef i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion lleol am y trefniadau penodol yn eu cymunedau.

Oes angen tocyn arnaf i wylio?

Nac oes, achlysur am ddim yw ef, sy'n golygu bod modd ichi fwynhau gwylio beicwyr proffesiynol gorau'r byd yn rasio yn eu crysau lliwgar trwy eich cymuned, am ddim.

Ble mae modd imi aros dros nos yn yr ardal – oes gwestai a meysydd gwersylla ar gael?

Os ydych chi'n bwriadu ymweld â Rhondda Cynon Taf ac aros yma ar gyfer y Tour de France, ewch i www.visitrct.wales/cy am wybodaeth am lety gerllaw. 

Beth arall alla i ei wneud yn ystod fy ymweliad â Rhondda Cynon Taf?

Mae ein Bwrdeistref Sirol yn gartref i rai tirnodau lleol gwych, fel Taith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Parc Gwledig Cwm Dâr, Profiad y Bathdy Brenhinol, Lido Cenedlaethol Cymru (Lido Ponty), Distyllfa Penderyn, a Zip World Tower, ymhlith eraill. Ewch i www.visitrct.wales/cy am wybodaeth am atyniadau cyfagos i ymwelwyr.

A fydd hi'n dal yn bosibl cerdded neu feicio ar y llwybr?

Unwaith y bydd ffyrdd wedi cau i draffig, yn gyffredinol, bydd yn dal yn bosibl i feicwyr a cherddwyr eu defnyddio tan tua 30 munud cyn i'r cerbydau hyrwyddo gyrraedd, ond efallai bydd y canllawiau yma'n newid am resymau gweithredol. Felly, dilynwch gyfarwyddiadau'r stiwardiaid a staff y ras. Yn gyffredinol, fydd llwybrau troed a phafinau ddim yn cael eu heffeithio a bydd modd i gerddwyr barhau i'w defnyddio. Ar hyd y llwybrau, bydd mynediad i gerddwyr ar gael trwy groesfannau wedi'u marcio a'u stiwardio.

Er budd diogelwch y cyhoedd, efallai y bydd mynediad yn cael ei gyfyngu mewn rhai ardaloedd ar hyd y llwybrau, ond rhoddir gwybod amdanyn nhw cyn yr achlysur. Cymerwch ofal ychwanegol wrth groesi a gofynnwch am gyngor a chymorth gan stiwardiaid yr achlysur.

Pa drefniadau fydd yn cael eu gwneud ar gyfer y gwasanaethau brys?

Mae gwaith cynllunio ar gyfer yr achlysur yn cynnwys yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub, y GIG a'r Gwasanaethau Ambiwlans, a gwasanaethau hanfodol eraill. Ymdrinnir ag unrhyw sefyllfa heb oedi, mewn modd diogel a bydd yn cael ei thrin yn y ffordd arferol gyda blaenoriaeth yn parhau i gael ei rhoi i sicrhau mynediad ar gyfer y gwasanaethau brys. Caiff blaenoriaeth hefyd ei rhoi i ddiogelwch trigolion ac ymwelwyr. Os ydych chi'n byw ar hyd un o'r llwybrau ac angen cymorth brys gan y Gwasanaethau Brys, ffoniwch 999 yn ôl yr arfer.

Oes modd i fi wirfoddoli yn yr achlysur?

Mae'r broses i bobl fynegi eu diddordeb mewn gwirfoddoli yn yr achlysur bellach wedi cau – daeth hi i ben ar 1 Medi, 2026, yn dilyn proses helaeth dros fisoedd yr haf. Roedd amrywiaeth o gyfleoedd ar gael – ar draws gweithrediadau llwybrau, cymorth i wylwyr ac ymgysylltu â'r gymuned – gan gynnig cyfle i bobl o bob oed fod yn rhan o hanes yr achlysur. Diolch i bawb a gysylltodd i gofrestru – cawson ni ymateb gwych gan drigolion Rhondda Cynon Taf!

A fydd busnesau’n cael eu cefnogi yn ystod yr achlysur?

Bydd y Cyngor a charfan y Tour de France yn gwneud eu gorau glas i sicrhau bod modd i fusnesau lleol barhau i fasnachu yn ôl yr arfer, a manteisio ar y diddordeb yn y ras a gwneud y gorau o'r holl bobl fydd yno. Byddwn ni mewn cysylltiad maes o law i drafod trefniadau ym mhob lleoliad i helpu busnesau i gynllunio ymlaen llaw, trwy wybodaeth a sesiynau galw heibio.

A fydd yr achlysur yn fyw ar y teledu?

Ar hyn o bryd, TNT Sports sydd â'r hawliau teledu ar gyfer y Tour de France yn y DU ac, fel sydd wedi'i fanylu mewn cyhoeddiad ym mis Mehefin 2026, mae ganddo bartneriaeth â'r darlledwr am ddim, Channel 5, sy'n darlledu achlysur 2027. Mae hyn yn cynnwys Channel 5 yn darlledu'n fyw pob un o chwe chymal y Grand Départ y flwyddyn nesaf – felly bydd modd gwylio cymal Cymru ar 4 Gorffennaf, 2027 am ddim.

A fydd yna barthau i gefnogwyr?

Bydd parthau i gefnogwyr ar hyd cymal ehangach Cymru, gan gynnwys un wrth y lleoliad cychwynnol yn Y Trallwng ac un arall wrth y llinell derfyn yng Nghaerdydd. Caiff manylion am Hybiau i Gefnogwyr pellach yn Rhondda Cynon Taf eu rhoi i'r cyhoedd yn nes at yr achlysur. Caiff yr hybiau eu hystyried a'u penderfynu ar hyn o bryd.

Mae gyda fi gwestiwn sydd heb ei ateb; gyda phwy ddylwn i gysylltu?

Rydyn ni'n gwerthfawrogi efallai ein bod heb yr atebion i bob cwestiwn ar hyn o bryd. Byddwn ni'n diweddaru ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol yn barhaus gyda'r newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf, felly galwch heibio'n rheolaidd am y newyddion diweddaraf. Oes gyda chi gwestiwn am y Grand Départ dydyn ni ddim wedi'i ateb yma? E-bostiwch dîm y Tour de France: enquiries@letourgb.com.