Skip to main content

Gŵyl Aberdâr

 

Mae'r parc Fictoraidd hardd yma, sydd dros 150 mlwydd oed, yn llawn cymeriad, hanes, a rhyfeddodau i chi eu harchwilio. Ewch am dro hamddenol o amgylch y llyn cychod, mwynhewch gêm ar y lawntiau bowls neu'r cyrtiau tennis, neu gadewch i'r plant bach redeg yn wyllt yn yr ardal chwarae. Yn yr haf, bydd eich rhai bach wrth eu boddau yn y pad sblasio anhygoel!

Os ydych chi'n hoffi hanes lleol, bydd gyda chi ddigon i'w edmygu. Mae Cylch yr Orsedd o Eisteddfod Genedlaethol 1956 yn parhau i sefyll yn falch, tra bod y ffynnon haearn drawiadol (dim ond dwy arall sydd yn y byd cyfan) wedi’i chreu i ddathlu coroni’r Brenin Siôr V. Ar ddiwrnodau heulog, does dim byd gwell nag ymlacio a gwrando ar fandiau lleol yn perfformio ar y safle seindorf.

Ydych chi'n chwilio am rywbeth ychydig yn fwy cyffrous? Ewch i’r parc ym mis Gorffennaf i fwynhau cyffro Rasys Parc Aberdâr, lle mae beiciau modur yn rasio o amgylch y gylchdaith Rasio Ffordd Genedlaethol enwog. Byddwch yn siŵr o gael penwythnos bythgofiadwy!

Mae Gŵyl Aberdâr wedi chwarae rôl allweddol i'r parc ers blynyddoedd lawer. Bob mis Mai, mae rhai o'r perfformwyr teyrnged gorau, perfformwyr plant, diddanwyr, stondinwyr bwyd, crefft a gwybodaeth yn ymweld â'r parc i sicrhau bod y teulu cyfan yn mwynhau diwrnod perffaith. Cadwch lygad ar ein gwefan a dilynwch @besymlaenrhct, ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am gyhoeddiadau am Ŵyl nesaf Aberdâr!

P'un a ydych chi'n chwilio am gyfle i fwynhau'r heddwch neu'r cyffro, mae rhywbeth at ddant pawb ym Mharc Aberdâr.

Bydd cost ychwanegol ar gyfer rhai gweithgareddau ar y safle.