Ymunwch â ni ddydd Iau, 17 Ebrill, ar gyfer antur sydd wedi'i ysbrydoli gan Willy Wonka, lle byddwn ni'n dysgu am yr wyddoniaeth sy'n helpu i greu eich hoff ddanteithion melys. Yn y gweithdy blasus yma byddwn ni'n defnyddio offer a thechnegau gwyddonol i greu ein melysion ein hunain, gan gynnwys sherbert hynod sur a mwydod jeli! Mae modd bwyta'r holl ddanteithion y byddwch chi'n eu creu yn eich arbrofion! (Mae popeth yn fegan, does dim cynnyrch llaeth na chnau, ac mae'r cynhwysion yn osgoi pob alergen cyffredin). Yn addas ar gyfer plant 4 oed a hŷn.
Mae 3 sesiwn ar gael - 10am, 12pm a 2pm.
£12 y plentyn. Mynediad am ddim i oedolion sy'n gofalu am blant.
Mae tocynnau ar werth yma