Dyma'ch cyfle i ymuno yn un o achlysuron chwaraeon mwyaf poblogaidd Cymru, sy'n digwydd yn Aberpennar ar Nos Galan.
Nid noson o gyflawniad ym maes chwaraeon yn unig yw hi, gyda channoedd o redwyr o bob oed a gallu yn cymryd rhan, ond hefyd yn achlysur ysbrydoledig, gyda Rhedwr Dirgel enwog o fyd chwaraeon yn cychwyn y rasys yn swyddogol – pwy fydd ef eleni?
Y llynedd, gwnaethon ni groesawu'r bocsiwr Cymreig byd enwog Lauren Price MBE, ac roedd y dorf wrth ei bodd. Ymunodd Ria Burrage-Male o Aberdâr, sy’n gyn-chwaraewr hoci Gemau'r Gymanwlad a menyw fusnes, â’r ferch o’r Cymoedd.
Mae hefyd yn noson o hwyl a thraddodiad i'r teulu – bydd cannoedd o gefnogwyr yn clodfori'r rhedwyr, i gwrdd â'r Rhedwr Dirgel a mwynhau awyrgylch unigryw'r rasys. Bydd y ffair hwyl a'r tân gwyllt hefyd yn dychwelyd ar gyfer 2025.
Mae eleni yn nodi 67 mlynedd ers dechrau Rasys Nos Galan, a sefydlwyd ym 1958 gan y diweddar Bernard Baldwin MBE i ddathlu’r chwedl leol Guto Nyth Brân. Fe oedd y dyn cyflymaf ar y ddaear a allai ddal aderyn yn ei ddwylo ei hun, yn ôl y sôn.
Ganed Guto ym 1700, ac mae'n destun chwedlau lu. Yn ôl y sôn, roedd yn gallu mynd o amgylch defaid ei dad o'r mynydd yn gyflymach nag unrhyw gi defaid a rhedeg o'i gartref i'r siopau ac yn ôl cyn i'r tegell ar stof ei fam gael cyfle i ferwi.
Enillodd nifer o rasys yn erbyn cystadleuwyr o bob man ac ar linell derfyn ei ras olaf, a enillodd ef, wrth gwrs, bu farw Guto ym mreichiau ei gariad, Sian y Siop. Mae wedi'i gladdu ym mynwent Eglwys Sant Gwynno yn Llanwynno ac mae modd i chi ymweld â'i fedd.
Mae yna wasanaeth yn yr Eglwys ac mae torch yn cael ei gosod ar ei fedd ar ddechrau Nos Galan bob blwyddyn.
Lansiwyd Rasys Nos Galan gan Bernard Baldwin MBE. Daethon nhw'n fwy poblogaidd a chawson nhw eu darlledu'n aml. Erbyn hyn mae'r achlysur yn denu dros 2,000 o redwyr o bob rhan o’r DU, gan gystadlu ar ystod o lefelau yn y rasys hanesyddol, yn ogystal â denu miloedd o gefnogwyr i strydoedd Aberpennar.
Mae'r achlysur yn cychwyn gyda rasys y plant, cyn i'r Rhedwr Dirgel gyrraedd gyda ffagl Nos Galan, sy'n cael ei ddefnyddio i oleuo goleudy Nos Galan yn y dref. Mae Rhedwyr Dirgel blaenorol wedi cynnwys Linford Christie, Nigel Owens, Chris Coleman, James Hook, Jamie Roberts, Nicole Cooke ac, wrth gwrs, Lauren Price MBE.
Mae tân gwyllt yn llenwi'r awyr ar Nos Galan, cyn i'r Rasys Elitaidd i Ddynion a Menywod, a'r Ras Hwyl boblogaidd ddigwydd.
I gael y newyddion diweddaraf am Rasys Nos Galan 2025, dilynwch Rasys Nos Galan ar Facebook ac X.
A oes gyda chi ddiddordeb mewn cymryd rhan? Rydyn ni'n edrych am wirfoddolwyr i helpu i gynnal Rasys Nos Galan 2025 ar y noson. Os oes gyda chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli, e-bostiwch nosgalan@rctcbc.gov.uk
Fyddai Rasys Nos Galan 2025 ddim yn bosibl heb gefnogaeth ein noddwyr
Prichards
Amgen
Trivallis
Walters
Trafnidiaeth Cymru
Dwr Brecon Carreg