Skip to main content

Sioe Ceir Clasur

 
 
Lleoliad
Rhondda Heritage Park Museum
Date(s)
Dydd Sadwrn 28 Mehefin 2025
Cyswllt
achlysuron@rctcbc.gov.uk
Disgrifiad
CCS2

Hen geir, beiciau a llawer yn rhagor yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda!  Dyma achlysur i bobl sy'n hoff iawn o hen geir – bydd cwrt Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn llawn unwaith eto ar 28 Mehefin.
Archebwch eich car gan ddefnyddio'r ffurflen yma Classic Car Show Booking Form 2025

Dyma achlysur gwych i'r teulu cyfan ei fwynhau, gyda chyfle i weld ceir clasur mewn cyflwr arbennig a chwrdd â'u perchnogion brwdfrydig a gwybodus. Mae'r cyfan yn digwydd ddydd Sadwrn, 28 Mehefin, rhwng 10am a 4pm.

Yn ôl yr arfer, bydd yr achlysur yn cael ei gynnal ar y cyd â Chlwb Ceir Clasur Morgannwg. Cost mynediad yw £5.50 i oedolion, £4.50 i blant dros 5 oed. Mae mynediad i blant dan 5 oed am ddim.

Os ydych chi'n dod draw i'r Sioe Ceir Clasur eleni, cofiwch fod modd i chi hefyd ymweld ag arddangosfeydd rhyngweithiol Parc Treftadaeth Cwm Rhondda am ddim, mwynhau pryd o fwyd, byrbryd neu de prynhawn yn Caffe Bracchi, a tharo heibio i'r siop anrhegion i bori'r casgliad o gofroddion, anrhegion clasurol Cymreig a chynnyrch lleol. Efallai byddwch chi'n gweld ambell beth i ychwanegu at eich casgliad!

Mae croeso i chi fwynhau taith yr Aur Du hefyd, lle bydd cyn-löwr yn rhoi helmed glöwr ar eich pen ac yn eich cludo o dan y ddaear ac yn ôl mewn amser.

Mae gan bob un o'r cyn-lowyr lond y byd o atgofion o byllau glo De Cymru. Mae pob taith yn wahanol diolch i straeon a jôcs gwahanol y cyn-lowyr a fydd eich tywys chi. Mae pob taith yn gorffen â reid ar DRAM! Daliwch yn dynn wrth i chi ddynwared taith olaf y glo ar ddram i ben siafft y pwll yn y profiad cyffrous yma!

Mae tocynnau ar gyfer y Sioe Ceir Clasur ar gael yma. Bydd tocynnau hefyd ar gael ar y diwrnod.

Hoffech chi arddangos eich car yn y sioe? Llenwch y ffurflen gais yma a'i dychwelyd i Glwb Ceir Clasur Morgannwg. Mae manylion y clwb i'w gweld ar y ffurflen.

Ewch i rhonddaheritagepark.com i ddysgu rhagor am Barc Treftadaeth Cwm Rhondda, cadw lle ar Daith Dywys Danddaearol yr Aur Du neu gadw bwrdd yn Caffè Bracchi.

Digwyddiadau i ddod

Dim canlyniadau yn bodloni eich meini prawf chwilio.

Cysylltwch â ni

Carfan Achlysuron Rhondda Cynon Taf

Ebost: achlysuron@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424123

Join us on Facebook
Join us on Twitter