Ogof Siôn Corn yn dychwelyd i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
Antur Nadoligaidd hudol ar gyfer teuluoedd a theithiau ysgol!
Ydych chi'n clywed sŵn clychau? Mae Ogof Siôn Corn yn ôl - ac mae'n fwy hudol nag erioed! Rhwng 22 Tachwedd a 24 Rhagfyr, bydd Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cael ei thrawsnewid yn lleoliad Nadoligaidd lle bydd modd i deuluoedd a grwpiau ysgolion fynd ar antur dwymgalon er mwyn dod o hyd i Siôn Corn yn nyfnderoedd y pwll glo. Mae llawer o bethau’n digwydd eleni, gan gynnwys:
- Sesiynau Stori gyda Siôn Corn newydd sbon – bydd sesiynau Cymraeg, Saesneg ac ADY ar gael
- Teithiau Ysgolion
- Sesiynau ADY yn Ogof Siôn Corn
Mae manylion llawn wedi'u nodi isod.
Ogof Siôn Corn
Ymunwch â glowyr yr ogof ar daith a fydd yn llawn rhyfeddodau a chyffro.
Ewch i ddyfnderoedd Ogof Siôn Corn, lle byddwch chi'n cwrdd â rhagor o lowyr yr ogof a dod o hyd i syrpreisys ar hyd y ffordd. Pan fyddwch chi'n cyrraedd yr ogof, bydd pawb eisiau gwybod ateb y cwestiwn pwysig yma – a ydy Siôn Corn yno?
Mae pris tocyn yn cynnwys:
- Antur hudol wedi'i goleuo drwy Ogof Siôn Corn
- Ymweld â Siôn Corn yn ei ogof
- Bydd pob plentyn yn derbyn cloch hudol arbennig gan Siôn Corn ei hun, cyn mynd i'r Siop Deganau i'w chyfnewid am anrheg.
- Profiad i'w gofio – Gwenwch! Ewch i gael llun wedi'i dynnu o'ch teulu gyda Siôn Corn! Bydd modd prynu lluniau ymlaen llaw neu ar y diwrnod, gydag amrywiaeth o opsiynau argraffu ar gael.
Nodwch: Bydd teithiau'n cynnwys nifer o grwpiau felly byddwch chi'n rhannu'ch ymweliad â Siôn Corn yn ei ogof gyda gwesteion eraill!
Stori gyda Siôn Corn Ymunwch â Siôn Corn ei hun ac un o lowyr yr ogof ar gyfer sesiwn adrodd stori glyd yn llawn hwyl yr ŵyl. Bydd sesiynau ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Bydd sesiynau i blant ag ADY gyda llai o bobl ac amgylchedd tawelach ar gael hefyd.
Mae pris tocyn yn cynnwys:
- Ymweld â Siôn Corn yn ei ogof
Stori Nadoligaidd hyfryd wedi'i hadrodd gan un o lowyr yr ogof.
Cloch hudol i'w chyfnewid yn y Siop Deganau
Taith i'r Siop Deganau, lle bydd modd i blant ddewis eu hanrheg
Bydd cyfle hefyd i dynnu llun Nadoligaidd gyda Siôn Corn, a bydd modd prynu lluniau ymlaen llaw neu ar y diwrnod.
Nodwch: Dydy sesiynau Stori gyda Siôn Corn ddim yn cynnwys taith lawn Ogof Siôn Corn.
Teithiau Ysgolion
Mae modd i ysgolion drefnu taith yn ystod yr wythnos rhwng 10am a 2pm – dyma daith addysgol Nadoligaidd wych!
Mae modd i ysgolion drefnu taith drwy ffonio 01443 682036.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
“Rydyn ni'n falch iawn o groesawu teuluoedd ac ysgolion yn ôl i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar gyfer Ogof Siôn Corn 2025. Mae'r achlysur poblogaidd yma'n parhau i gynnig profiad hudol i blant o bob oed, gan gyfuno storïau Nadoligaidd, antur ryngweithiol, a llawenydd cwrdd â Siôn Corn. Gydag elfennau newydd, gan gynnwys sesiynau stori a sesiynau tawelach i blant ag ADY, rydyn ni'n falch o wneud dathliad eleni yn fwy cynhwysol a hudol nag erioed.”
Oriau Agor
- Ogof Siôn Corn.
- 19 Tachwedd tan 23 Rhagfyr, 10am – 8pm
- Noswyl Nadolig: 9am – 3pm
- Sesiynau ADY, 8a 9 Rhagfyr, 4pm – 6pm
- Stori gyda Siôn Corn. Yn ystod yr wythnos yn unig, 24 Tachwedd – 18 Rhagfyr, 3pm.
Prisoedd Ogof Siôn Corn ar gyfer Ysgolion
- £10.50 fesul plentyn
- £5.50 fesul oedolyn
- Un tocyn am ddim i athro/athrawes fesul pob 10 plentyn
- Mae modd i ysgolion drefnu taith drwy ffonio 01443 682036
Prisoedd Mynediad Cyffredinol Ogof Siôn Corn
- £13.50 fesul plentyn (4+ oed)
- £13.50 fesul oedolyn
- £6.00 fesul plentyn rhwng 0 a 18 mis oed
- Diwrnodau Brig (19 – 24 Rhagfyr)
- £15 fesul plentyn
- £15 fesul oedolyn
- £8 fesul plentyn rhwng 0 a 18 mis oed
- Ffi Archebu (ar gyfer pob archeb):
Stori gyda Siôn Corn
Bydd tocynnau ar werth o 9am, ddydd Mercher 10 Medi