Ymunwch â ni yn achlysur Ŵy-a-sbri y Pasg ddydd Mercher 1 a dydd Iau 2 Ebrill!
Pris tocynnau yw £12.50 y plentyn a £3.50 ar gyfer pob oedolyn sy'n dod gyda nhw.
Bydd ffi archebu o £1 ar gyfer pob archeb - Mae pris tocyn yn cynnwys mynediad diderfyn yn ystod eich sesiwn at y canlynol:
- Helfa wyau - gyda siocled ar y diwedd
- Taith i Gartref Tanddaearol Bwni'r Pasg gyda chyfle i gael hunlun gyda'n Bwni
- Reidiau bach i blant
- Crefftau'r Pasg
- Modelwr balwnau
- Fferm anwesu anifeiliaid
Mae tair sesiwn ar gael bob dydd:
- 10am – 12pm
- 12.30pm – 2.30pm
- 3pm – 5pm
Mae tocynnau ar werth yma