Skip to main content

Parti Haf y 90au Rhondda Cynon Taf

 
 
Lleoliad
Ynysangharad War Memorial Park
Date(s)
Dydd Sadwrn 22 Awst 2026
Disgrifiad
RCT 90's Summer Part Thumbnail 500x500

Ymunwch â ni ym Mharc Coffa Ynysangharad yr haf yma wrth i ni fwynhau'r parti yn llawn holl ganeuon poblogaidd y 90au. Byddwn ni’n cynnal yr achlysur ddydd Sadwrn, 22 Awst, a bydd yn gyfle i fynd yn ôl i'r 90au ar gyfer parti gyda:

��Heather Small: Cantores a phrif leisydd M People, sy'n enwog am eu caneuon megis 'Moving On Up', 'One Night in Heaven' a 'Proud'.

��Kenny Thomas: Gydag 8 cân wedi cyrraedd 40 uchaf y DU gan gynnwys 'Thinking About Your Love' a 'Best of You'

��East 17: Gyda chaneuon wedi dod i frig y siartiau mewn sawl gwlad, roedd East 17 yn fand poblogaidd yn y 90au - pwy fyddai'n anghofio eu cân fwyaf enwog - 'Stay Another Day'

��Whigfield: Byddwch barod ar 'Saturday Night' i fwynhau a dawnsio wrth wrando ar ganeuon Whigfield

��S Club: There ain’t no party like an S Club party! Ymunwch â Jo a Jon wrth iddyn nhw ganu caneuon poblogaidd fel 'Don't Stop Moving' a 'Reach'

��️Wedi'i gyflwyno gan Jagger a Woody (Heart Radio)

Tocynnau wedi GWERTHU ALLAN!

Mae'r gatiau'n agor am 3pm, gyda disgwyl i'r cyngerdd ddechrau am 4pm a gorffen am 10:30pm.

Digwyddiadau i ddod

Dim canlyniadau yn bodloni eich meini prawf chwilio.

Cysylltwch â ni

Carfan Achlysuron Rhondda Cynon Taf

Ebost: achlysuron@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424123

Join us on Facebook
Join us on Twitter