Mae Nadolig yn dod i Porth!
26 Tachwedd, 3-6pm, Parc Plasa'r Porth
Am £1 y tocyn yn unig (ar gael ar y diwrnod), mae modd i deuluoedd fwynhau ystod wych o atyniadau Nadoligaidd:
Glôb Eira Enfawr – Gwenwch! Dewch i wlad hudol, aeafol i dynnu llun Nadoligaidd!
Llawr Sglefrio Synthetig – Byddwch yn barod am hwyl a sbri! Sglefrio Nadoligaidd ar gyfer pawb o bob oedran!
Ffair Hwyl i Blant – Mae modd i'r rhai bach fwynhau tair reid, gyda digon o gyffro Nadoligaidd ar hyd y ffordd.
Paentio Wynebau – Ydych chi am fod yn garw â thrwyn coch neu'n angel y Nadolig?
Ogof Siôn Corn – Am ddau docyn yn unig, dewch i ogof Siôn Corn i gwrdd â'r dyn ei hun ac i dderbyn anrheg yn syth o Begwn y Gogledd!