Mae Ogof Siôn Corn wedi dychwelyd! Rhwng dydd Sadwrn 21 Tachwedd a dydd Iau 24 Rhagfyr, bydd Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn trawsnewid yn brofiad Nadoligaidd lle bydd modd i deuluoedd a grwpiau ysgol fynd ar antur dwymgalon i ddod o hyd i Siôn Corn yn ei ogof hudol!
Mae llawer ar gael eleni, gan gynnwys:
- Ogof Siôn Corn, y daith danddaearol sy'n boblogaidd gyda theuluoedd
- Stori gyda Siôn Corn
- Teithiau ysgol i Ogof Siôn Corn
- Sesiynau Ogof Siôn Corn i blant ag ADY
- ACHLYSUR NEWYDD SBON! Groto Siôn Corn ar gyfer Teuluoedd
Mae tocynnau ar werth NAWR!