Mae Cyngor RhCT yn falch o gefnogi Gŵyl Morfydd Owen, a gynhelir rhwng 9 ac 11 Hydref mewn lleoliadau ledled Pontypridd, gan ddathlu'r iaith Gymraeg, hanes lleol a cherddoriaeth, er cof am un o gyfansoddwyr mwyaf dylanwadol Cymru, Morfydd Owen.
Mae'r rhaglen yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau hwyliog a diddorol gan gynnwys:
Dawnsio clocsiau
Cerddoriaeth stryd fyw
Parêd cysgodion lamp
A chymaint mwy!
Ewch i www.morfydd-owen.cymru am ragor o wybodaeth am holl ddigwyddiadau'r ŵyl a sut i archebu lle bo'n berthnasol.