Mae Rasys Nos Galan yn dathlu bywyd a chyflawniadau Guto Nyth Brân, sef rhedwr o Gymru. Cafodd y Ras ei sefydlu gan redwr lleol, Bernard Baldwin, yn 1958. Bydd y rhedwyr yn teithio 5km o amgylch Canol Tref Aberpennar.
Cafodd yr achlysur ei ddarlledu'n genedlaethol yn rhan o ddathliadau Nos Galan y BBC pan oedd yn ei anterth. Serch hynny, daeth y rasys i ben yn 1973 o ganlyniad i bryderon Heddlu Morgannwg ynglŷn â'r effaith ar draffig. Cafodd Rasys Nos Galan eu hadfer yn 1984 pan gystadlodd 14 o redwyr mewn ras dros filltir (1.6km). Yn ogystal â hynny, torrodd y ras dir newydd. Cariodd tri rhedwr dirgel Ffagl Rasys Nos Galan, gan gynrychioli'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol o ran athletau.
Mae Rasys Nos Galan yn dal i ddenu rhedwyr o bob cwr o Brydain. Llwyddodd ras 2016 i ddenu mwy na 1,600 o redwyr a 12,500 o gefnogwyr.
Mae'r brif ras yn dechrau gyda gwasanaeth yn Eglwys Llanwynno. Ar ôl hynny, caiff torch o flodau ei gosod ar fedd Guto Nyth Brân ym mynwent Llanwynno. Ar ôl i'r ffagl gael ei goleuo, caiff ei chario i dref Aberpennar, lle bydd y brif ras yn dechrau. Mae trefn y ras wedi newid sawl gwaith dros y blynyddoedd. Mae'r ras bresennol yn cynnwys tri chylch o amgylch canol y dref. Mae'r ras yn dechrau ar Henry Street ac yn gorffen ar Oxford Street, ger y cerflun o Guto.
Yn draddodiadol, byddai'r ras yn gorffen am hanner nos. Serch hynny, er mwyn gwneud yr achlysur yn fwy cyfleus i deuluoedd, mae'r ras bellach yn dod i ben am tua 21:30.
O ganlyniad i hyn, mae'r achlysur wedi tyfu o ran maint a nifer y rhedwyr. Bellach, mae'r achlysur yn dechrau gyda rasys i blant 8 oed a throsodd, rasys i redwyr elît, y brif Ras Hwyl i oedolion a chyflwyniadau.