Skip to main content

Rhedwr Dirgel

 

Bob blwyddyn, mae un o sêr byd chwaraeon - y mae’i enw yn cael ei gelu tan y noson - yn gosod blodeudorch ar fedd Guto. I lawr â'r seren wedyn yn cario ffagl yn llosgi i Aberpennar. Cafodd llawer o sêr byd chwaraeon yr anrhydedd hwn dros y blynyddoedd. Ymhlith y rhain bu Ann Packer Brightwell, Ron Jones, Lillian Board, David Hemery, David Bedford, Steve Jones, Kirsty Wade, a Linford Christie, OBE.

Fflam o'r ffaglsy'n tanio Coelcerth Nos Galan, sy'n arwydd i Rasys yr Oedolion ddechrau.

Rhedwyr Dirgel yr ychydig flynyddoedd diwethaf

2023

Gareth Thomas, Laura McAllister

Nid un, ond dau redwr dirgel oedd wedi ein helpu ni i ddathlu pen-blwydd Rasys Nos Galan yn 65 oed! Ymunodd y chwaraewr rygbi, Gareth Thomas a'r pêl-droediwr, Laura McAllister â ni yn Aberpennar!

Mae Gareth Thomas CBE (Alfie) yn gyn-chwaraewr rygbi undeb a rygbi cynghrair. Ef yw'r unigolyn sydd a'r chweched nifer fwyaf o gapiau dros Gymru. Yn dilyn gyrfa hir ym maes chwaraeon, daeth yn sylwebydd teledu uchel ei barch.

Mae hefyd wedi ymddangos ar y teledu mewn rhaglenni megis Big Brother, SAS: Who Dares Wins, Stella a rhaglenni dogfen gyda’r Tywysog Harry, Ymddiriedolaeth Terrence Higgins a “Gareth Thomas: HIV and Me”. Ei hunangofiant, “Proud” oedd llyfr chwaraeon y flwyddyn yn 2015, ac mae'n parhau yn ymgyrchydd brwd ac yn eiriolwr dros iechyd y cyhoedd a chydraddoldeb.

Yr Athro Laura McAllister CBE yw un o'r menywod mwyaf dylanwadol ym maes chwaraeon a materion cymdeithasol yng Nghymru. A hithau'n gyn-chwaraewr, derbyniodd 24 cap dros Gymru cyn mynd ymlaen i lobïo Cymdeithas Bêl-droed Cymru i gydnabod camp pêl-droed menywod, gan arwain y ffordd i Jess Fishlock a'r criw.

Roedd ar fwrdd Chwaraeon Cymru a hi oedd wrth y llyw yn ystod y cyfnod mwyaf llwyddiannus erioed i chwaraeon elît yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod yma, enillwyd y nifer fwyaf erioed o fedalau yn y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd a Gemau’r Gymanwlad.

Laura oedd y person cyntaf o Gymru i ddod yn Llywydd ar UEFA ac mae hi bellach yn Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn ogystal â chyrraedd brig rhestr PINC Cymru yn 2023!

Nos Galan 105
2022

George North

Cafodd pencampwr y Gweilch a Chymru, George North, yr anrhydedd o gael ei ddewis yn Rhedwr Dirgel Rasys Nos Galan wrth i'r achlysur ddychwelyd i'r strydoedd am y tro cyntaf ers dwy flynedd. 

Mae George wedi sgorio mwy o geisiadau dros ei wlad nag unrhyw chwaraewr arall sy'n dal i chwarae. Chwaraeodd George dros Gymru am y tro cyntaf yn 2010, yn 18 oed, gan sgorio dau gais yn erbyn De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm (fel y cafodd ei galw ar y pryd).

Mae gan George 109 o gapiau sy'n golygu ei fod e'n drydydd yn y rhestr o chwaraewyr Undeb Rygbi Cymru gyda'r nifer uchaf o gapiau. Mae wedi sgorio 43 o geisiadau dros Gymru, dim ond un chwaraewr arall sydd wedi sgorio mwy, sef Shane Williams, cyn-redwr dirgel Nos Galan.

george-north-on-evening
2021

Dame Tanni Grey Thompson

Anfonodd pencampwraig y Gemau Paralympaidd, Y Fonesig Tanni Grey Thompson, gefnogaeth at bawb oedd wedi cwblhau Nos Galan: Yr Her Rithwir yn 2021. Am yr ail flwyddyn yn olynol, cafodd yr achlysur ei gynnal yn rhithwir o ganlyniad i bandemig byd-eang y coronafeirws ac ymunodd hi â Phwyllgor Nos Galan i ddiolch a chanmol y rheiny oedd wedi parhau i gefnogi'r achlysur yn ystod cyfnod anodd.

Fel athletwraig ifanc, cystadlodd Y Fonesig Tanni yn y gystadleuaeth pêl-fasged cadair olwyn ond aeth hi ymlaen i ennill 16 o fedalau rasio yn ystod ei gyrfa chwaraeon, gan gynnwys dwy fedal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Athens yn 2004. Cynrychiolodd hi Brydain Fawr am y tro olaf yng Nghwpan y Byd Paralympaidd ym Manceinion yn 2007. Mae hi hefyd wedi parhau i arwain ym maes chwaraeon, gan fod yn aelod o ystod o fyrddau a phaneli i lywio cyfleoedd a mynediad at chwaraeon.

2021 tanni Grey Thompson
2019

Nigel Owens MBE

Cafodd y dyfarnwr fyd enwog ei eni a'i fagu ym Mhentref Mynyddcerrig, yn Sir Gaerfyrddin. Ar ôl dyfarnu ei gêm gyntaf yn 15 oed, aeth Nigel ymlaen i gael gyrfa lewyrchus fel dyfarnwr rygbi, gan wasanaethu fel swyddog mewn gemau ar draws y byd.

Pan gafodd Nigel ei gyhoeddi fel Rhedwr Dirgel y Rasys Nos Galan, fe oedd y dyfarnwr wnaeth ddyfarnu'r nifer fwyaf o gemau prawf rygbi'r byd ac roedd yn un o bedwar o ddyfarnwyr Undeb Rygbi Cymru.

Yn yr un flwyddyn, fe wnaeth Nigel ddyfarnu yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2019 yn Siapan ac fe oedd y prif swyddog yn y gêm rhwng Cymru a'r Barbariaid yn ystod cyfres yr hydref.

2019-Mystery-Runner
2018

David Bedford OBE, Sam Warburton OBE a Rhys Jones

Er mwyn dathlu pen-blwydd Rasys Nos Galan yn 60 oed, fe groesawon ni dri rhedwr dirgel yn 2018.

Daeth mwy o bobl nag erioed o'r blaen yn hanes y Rasys i groesawu'r tri wrth iddyn nhw gyrraedd y dref yn cario torch hollbwysig Nos Galan. Y tri rhedwr dirgel eleni oedd David Bedford OBE, athletwr o fri a chyn-ddeiliad record y byd ar gyfer y ras 10,000 metr; Sam Warburton OBE, seren byd rygbi Cymru; a Rhys Jones o Donypandy sy wedi cymryd rhan yn y Gemau Paralympaidd ddwywaith, ac sydd â'i fryd ar gynrychioli Team GB eto.

Cynrychiolon nhw orffennol, presennol a dyfodol Rasys Nos Galan, a'r bobl dalentog ym maes chwaraeon sydd gyda ni yma yn Rhondda Cynon Taf.

Nos-Galan-2018-Mystery-Runners
2017

Nathan Cleverly a Colin Charvis

Nathan Cleverly, cyn-bencampwr y byd a Colin Charvis, a gynrychiolodd dîm rygbi Cymru a'r Llewod, oedd Rhedwyr Dirgel Rasys Nos Galan 2017.

Dechreuodd Nathan ei yrfa broffesiynol ym mis Gorffennaf 2005, yn 18 oed. Penderfynodd i roi'r gorau iddi ar ôl colli'i goron pwysau trwm ysgafn WBO i Badou Jack yn Las Vegas yn 2017, gyda'r ornest yn dod i ben yn y bumed rownd yn yr un achlysur â buddugoliaeth Floyd Mayweather yn erbyn Conor McGregor. Collodd 4 gwaith yn unig mewn 34 gornest yn ystod ei yrfa.

Chwaraeodd Colin 94 o weithiau dros Gymru, sgoriodd 22 o geisiau dros ei wlad, sy'n golygu mai fe yw'r prif sgoriwr ceisiau o blith blaenwyr Cymru. Roedd e'n gapten Cymru yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn 2003, a chynrychioldd ei wlad yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn 1999 hefyd. Roedd e'n rhan o Dîm y Llewod yn ei gyfres Prawf yn Awstralia yn 2001.

Nathan-Cleverly-Colin-Charvis
2016

Chris Coleman OBE

Chris Coleman, Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, oedd Rhedwr Dirgel Nos Galan 2016. Y fe, fel rheolwr pêl-droed Cymru, a arweiniodd ymgyrch dra phwysig y genedl yn Ewrop yn 2016. Yn frodor o Abertawe, dywedodd Chris ei fod wrth ei fodd yn Aberpennar, tref enedigol ei fam-gu, ar Nos Galan

Bu'n chwarae mewn 32 o gemau dros Gymru. Bu'n chwarae ar lefel clwb dros Manchester City, Dinas Abertawe, Crystal Palace, Blackburn Rovers, a Fulham. Aeth ymlaen wedyn i reoli Fulham, Real Sociedad de Fútbol, Coventry City, a Larissa.

Diwedd i flwyddyn arbennig i Chris iawn oedd troedio strydoedd Aberpennar. Dyma'r flwyddyn y cafodd ei urddo yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.

 

Chris-Colman
2015

Colin Jackson CBE

Colin Jackson, CBE

Colin Jackson, Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig a chyn-athletwr gemau'r Olympau, y Gymanwlad, a'r Byd oedd ein Rhedwr Dirgel Nos Galan ar gyfer 2015.

Bu Colin yn Bencampwr Byd ddwywaith, pencampwr Ewropeaidd bedeirgwaith, ac yn bencampwr Gemau'r Gymanwlad ddwywaith. Cadwai record byd am gryn 13 o flynyddoedd hefyd. Roedd ef wrth ei fodd yn cynrychioli ysbryd ein rhedwr chwedlonol Guto Nyth Brân yn y digwyddiad byd-enwog yn Aberpennar.

Enillodd Colin Jackson, Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig ei blwyf yng Ngemau Olympaidd 1988 hefyd, gan fynd rhagddo i gystadlu dros Brydain am y 71ain ym Mhencampwriaethau Dan Do'r Byd, Birmingham, yn 2003. Dyna'r pryd yr ymddeolodd o'i yrfa athletau odidog.

 

Colin-Jackson-at-Nos-Galan
2014

Adam Jones

 

Yn brop i Gymru ac i'r Llewod Prydeinig a Gwyddelig, y seren rygbi Adam Jones fu'n Rhedwr Dirgel Nos Galan 2014.

Yn Gymro i'r carn, dywedodd Adam ei fod wrth ei fodd yn cael cynrychioli ysbryd y rhedwr chwedlonol Guto Nyth Brân yn Rasys byd-enwog Nos Galan yn Aberpennar.

 

adam-jones-at-Nos-Galan
2013

Alun Wyn Jones

 

Alun Wyn Jones, chwaraewr rygbi dros Gymru a'r Llewod Prydeinig a Gwyddelig, oedd Rhedwr Dirgel Nos Galan 2013.

Ymddangosodd chwaraewr y Gweilch, sy'n 32 oed a 74 cap dros Gymru a chwe chap i'r Llewod, yn Brynffynon Hotel Llanwynno cyn gosod blodeudorch ar fedd ein rhedwr chwedlonol, Griffith Morgan (Guto Nyth Brân), yn Eglwys Gwynno Sant, Llanwynno.

Yn draddodiadol mae dau redwr cymorth, fel acolitiaid, bob ochr i'r Rhedwr Dirgel. Y ddau redwr cymorth eleni roedd y tad a'i ferch, Gareth a Holli Jehu, a oedd yn cynrychioli Clwb Athletau Amatur Aberdâr.

 

AlunWynJones
2012

Yr Olympwr Dai Greene a'r Baralympwraig Samantha Bowen

Bu Dai, 31 oed, yn Bencampwr Clwydi 400 metr Prydain, Ewrop, a'r Byd. Y fe oedd yn gapten athletau Tîm Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd a gynhaliwyd yn Llundain yn 2012.

Yn frodor o'r Felinfoel, yn agos i Lanelli, dywedodd Dei iddo fwynhau profiad Nos Galan yn fawr iawn.

"Dyna ffordd wych i gloi 2012, blwyddyn fydd yn dal yn fy nghof am weddill fy mywyd.

Cafodd Samantha, 31, ei geni a'i magu yn Aberpennar. Cyflawnodd ei uchelgais drwy ymaelodi â'r Fyddin a gwasanaethu gyda 32ain Catrawd y Magnelwyr Brenhinol. A hithau yn gwasanaethu yn Irac, fe ddioddefodd anafiadau oedd yn fygythiad i fywyd. Aeth rhagddi i gystadlu yng Ngemau Paralympaidd Llundain yn 2012.

Bu Samantha yn cynrychioli Ynys Prydain yng nghystadleuaeth Pêl Foli Eistedd y Merched. Chwe mlynedd cyn hynny, bu Samantha yn brwydro am ei heinioes ar ôl i ymosodiad ar ei chanolfan filwrol ei pharlysu.  Roedd shrapnel llym o fom wedi rhwygo'i choes dde a'i chefn. Cafodd rhydweli yn ei choes dde ei thorri.

Llawdriniaeth frys a achubodd ei bywyd/ Cafodd hi'i hedfan i Ysbyty Selly Oak yn ninas Birmingham ar gyfer llawdriniaeth bellach. Cafodd hi'i rhyddhau o'r Fyddin wedyn ym mis Rhagfyr 2007, a dychwelodd gartref i fyw gyda'i theulu yn Aberpennar.

 

Dai-Greene-and-Samantha-Bowen
2011

Shane Williams a Ian Evans

Yn un o fawrion rygbi'r Llewod Prydeinig a Gwyddelig a Chymru, Shane Williams fu'n Rhedwr Dirgel Nos Galan 2011. Yn gwmni iddo roedd ei gyd-chwaraewr yn nhimau Cymru a'r Gweilch, Ian Evans.

Mae Shane, 40, wedi ennill 87 o gapiau dros Gymru. Ymddeolodd o rygbi rhyngwladol gyda chais godidog ym munud olaf y gêm yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd ar 3ydd Rhagfyr 2011. Mae'n parhau i fod yn chwaraewr allweddol â thîm rhanbarthol y Gweilch,

Mae Ian Evans, 33, yn byw yng Nghwm Cynon. Cychwynnodd ar ei yrfa rygbi gyda Chlwb Rygbi Abercwmboi.

Enillodd 17 o gapiau dros Gymru, a bu'n chwarae yng ngêm olaf Shane yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Rhagfyr 2016. Cafodd ei enwi i Garfan Cymru'r Chwech Gwlad ar gyfer 2016.

 

ShaneandIanlightupNosGalanDragonresize300x400
2010

John Hartson a Mark Taylor

Cyn-chwaraewr rhyngwladol dros Gymru yw John Hartson. Mae'n fwyaf adnabyddus am yr amser y bu'n chwarae dros glybiau West Ham a Glasgow Celtic. Bu Hartson yn flaenllaw mewn gemau dros Gymru hefyd, gan ennill 51 o gapiau nes iddo ymddeol o'r gêm ryngwladol yn 2006. Ymddeolodd o bêl-droed broffesiynol ym mis Ionawr 2008.

Dechreuodd Mark Taylor chwarae dros Bont-y-Pŵl ym 1992, cyn ymuno ag Abertawe. Fe'i henwyd yn Chwaraewr y Flwyddyn Cymru yn 2000. Yn ystod tymor 2003-2004, bu Taylor yn aelod o dîm Sgarlets Llanelli a enillodd y Gynghrair Geltaidd ar ei newydd wedd.

 

2010-press-pic
2009

James Hook and Jamie Roberts

Yn frodor o Gastell-nedd, bu Hook yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Banc Brenhinol yr Alban 2007. Cafodd ei gynnwys yn nhîm Pencampwriaeth Chwe Gwlad Banc Brenhinol yr Alban Warren Gatland a enillodd y Gamp Lawn yn 2008. Bu'n chwarae fel maswr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2009, a thaith y Llewod Prydeinig a Gwyddelig drwy Dde Affrica.

Yn frodor o Gasnewydd, bu Roberts yn rhan o dîm Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a enillodd y Gamp Lawn yn 2005. Cafodd ei gynnwys yng ngharfan Pencampwriaeth Chwe Gwlad Banc Brenhinol yr Alban ym mis Ionawr 2008, a charfan Pencampwriaeth Chwe Gwlad Banc Brenhinol yr Alban yn 2009.

 

Jamie-Roberts--James-Hook
2008

Linford Christie OBE

Yn ystod gyrfa ryngwladol yn rhychwantu 17 o flynyddoedd, bu Linford Christie yn cystadlu fwy na 60 o weithiau dros ei wlad. Enillodd 23 o fedalau pencampwriaeth, yn fwy na'r un gwibiwr gwrywaidd arall ym Mhrydain. Y fe oedd yn gapten ar dîm Prydain o 1990. Dyna'r flwyddyn pryd yr enillodd ef ei ail deitl ym Mhencampwriaethau Ewrop, a'i Fedal Aur gyntaf yng Ngemau'r Gymanwlad. Ymddeolodd o athletau rhyngwladol ym 1997.

Ni lwyddodd yr un athletwr arall o Brydain dros 100 metr am o 1988 tan 1996, y fe yw'r unig athletwr o Ewrop a redodd mewn llai na 10 eiliad. Cofnododd ef ei amser cyflymaf, 9.87 eiliad, ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Stuttgart. Dyma'r record i Ewrop gyfan.

 

linford
2007

Kevin Morgan

Yn frodor o Bontypridd, bu'n chwarae rygbi fel cefnwr talentog. Enillodd gyfoeth o brofiad mewn rygbi rhyngwladol.

Bu'n chwarae i gychwyn dros glwb ei dref frodorol, Pontypridd, cyn ymuno ag Abertawe ym 1998.

Ymunodd Kevin â'r Rhyfelwyr Celtaidd adeg ffurfio'r timau rhanbarthol yn 2003. Y flwyddyn ganlynol, aeth at Ddreigiau Casnewydd Gwent i arwyddo gyda’r Rhanbarth.

 

kevin-runner
2006

Rhys Williams

Enillodd Rhys ei fuddugoliaeth gyntaf ym Mhencampwriaethau Ysgolion Cymru ym 1999. Aeth Rhys rhagddo i ennill Pencampwriaeth Ewrop ar Lefelau Dan 17, 20, a 23.

Yn 2005, enillodd ddwy fedal aur ym Mhencampwriaethau Ewrop Dan 23 yn Erfurt, yr Almaen. Cystadleuodd gyntaf dros Ynys Prydain ar y Lefel Hŷn ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd yn Helsinki, Y Ffindir. Cyrhaeddodd y Cymal Cynderfynol, gan gyrraedd ei berfformiad personol gorau ei hun ddwywaith.

Y flwyddyn wedyn, llwyddodd Rhys i fachu'r Fedal efydd o 1/100 o eiliad - gan guro enillydd Medal Efydd yr Olympau yn y broses.

Aeth Rhys rhagddo i ennill ail fedal yn y Pencampwriaethau, gan fachu  medal arian yn y râs gyfnewid 4 x 400 metr. Canlyniad llwyddiant Rhys yn y râs gyfnewid oedd taw ef oedd yr athletwr mwyaf llwyddiannus yn Sweden. 

 

Mysteryrunner2006
2005

Gethin Jenkins, Martyn Williams, Rhys Thomas

Am dri deng mlynedd y bu Cymru'n aros am fuddugoliaeth ym Mhencampwriaeth Banc Brenhinol yr Alban - ac ennill Y Gamp Lawn yn 2005! Chwaraewyr Gleision Caerdydd oedd ein Rhedwyr Dirgel, sef Rhys Thomas, Gethin Jenkins, a Martyn Williams, Chwaraewr y Bencampwriaeth.

Mystery-Runners-2005
2004

Nicole Cooke

Ar ôl i Nicole ennill bron pob Teitl Prydeinig Iau ym mhob un o'r holl ddisgyblaethau beicio, mae hi wedi mynd o nerth i nerth drwy ailysgrifennu'r llyfrau record gan ennill pedwar Teitl Iau mewn blwyddyn. Yn ystod ei blwyddyn gyntaf yn yr Adran Hŷn, enillodd hi Fedal Iau yn Râs Ffordd Gemau'r Gymanwlad. Fe'i cyfrifir ar hyn  bryd yn bumed yn y Byd yn ei disgyblaeth.

NicoleCook
2003

Stephen Jones

Stephen yw'r sgoriwr trydydd uchaf yn rygbi rhyngwladol Cymru. Enillodd 35 o gapiau rhyngwladol, a derbyniodd pob un o'r holl anrhydeddau rygbi cartref sydd ar gael, gan gynnwys y Gynghrair Geltaidd, Cynghrair Genedlaethol Cymru, a Chwpan Cymru. Yn frodor o Lanelli, ymadawodd Stephen â'r Sgarlets yn haf 2004 er mwyn mynd at glwb Montferrand yn Ffrainc.

NosGalan2003celeb
2002

Matt Elias

Enillodd fedal arian yn y râs glwydi 400 metr yng Ngemau'r Gymanwlad ym Manceinion yn 2002. Enillodd fedal arian arall y tro hwnnw yn y râs gyfnewid 4 x 400.

NosGalanfMatt
2001

Darren Campbell

Enillodd Fedal Aur fel aelod o'r tîm râs gyfnewid 4 x 100, ac un Efydd yn y râs 200 metr yng Ngemau'r Gymanwlad ym Manceinion, ac un Efydd arall ym Mhencampwriaethau Ewrop.

Darrencampbell
2000

Christian Malcolm

Pencampwr Iau'r Byd râs 100 metr a râs 200 metr. Pencampwr Ewrop râs 200 metr Dan Do. Enillydd Medal Arian râs 200 metr Gemau'r Gymanwlad.

christianmalcolm
1999

Garin Jenkins & Dai Young

Garin Jenkins - y bachwr a'r blaenwr rheng flaen gyda'r nifer fwyaf o gapiau yn hanes Cymru. Chwaraeodd mewn tri o Gwpanau'r Byd Rygbi'r Undeb ym 1991, 1995, a 1999.

Dai Young - Cyfarwyddwr Rygbi Clwb y Wasps ar hyn o bryd. Enillodd dros 50 o gapiau dros Gymru. Bu'n chwarae mewn tair o deithiau'r Llewod Prydeinig a Gwyddelig, un o Gwpanau'r Byd Rygbi'r Gynghrair, a dau o rai Rygbi'r Undeb.

Jamie Baulch - Enillodd Fedal Aur ym Mhencampwriaethau Ewrop, Medal Arian yng Nghwpan y Byd, ac un Efydd yn râs gyfnewid 4 x 400 Gemau'r Gymanwlad.

 

DAIYOU1
1998

40fed Penblwydd Rasys Nos Galan

Jamie Baulch a Ron Jones

Ron Jones - Cyn-Gapten Timau Cymru a Phrydain. Enillydd Medal Efydd Gemau'r Gymanwlad a Phencampwriaethau Ewrop. Aelod o dîm râs gyfnewid 4 x 110 Prydain mwyaf llwyddiannus erioed.

JamieBaulchRonJones
1997

Iwan Thomas

Iwan sy'n dal record Prydain  ar gyfer y râs 400 metr,
 ac mae'n Bencampwr râs 400 metr Ewrop a'r Gymanwlad.

IwanThomas
1996

Robbie Reagan

Cyn-Bencampwr Byd Pwysau Bantam Sefydliad Bocsio'r Byd.

boxer
1995

Neil Jenkins

Sgoriwr pwyntiau mwyaf llwyddiannus Cymru, cefnwr y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, a maswr y Barbariaid.

NeilJenkins
1994

Steve Robinson

Cyn-Bencampwr Byd Pwysau Plu Sefydliad Bocsio'r Byd

SteveRobinson94

Ffotograffiaeth gan y Gwasanaeth Dylunio ac Argraffu Creadigol. Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Ffotograffiaeth ychwanegol drwy garedigrwydd Stiwdio Aberpennar.