O 23 Mai 2024 byddwch chi bellach yn gallu atgyfeirio eich staff at gymorth Iechyd Galwedigaethol. Bydd angen y canlynol arnoch chi ar gyfer hyn:
- Dolen URL newydd Cority – https://rctcbc.my.cority.com/#/login
- Enw defnyddiwr – Yr un fath â'r system flaenorol gan gynnwys y rhagymadrodd RCT_ o'i flaen (e.e. RCT_mousem)
- Cyfrinair – Cliciwch ar y botwm Forgotten Password wrth fewngofnodi am y tro cyntaf a bydd modd i chi yna ddewis eich cyfrinair newydd (Rhaid iddo fod o leiaf 8 nod o hyd gan gynnwys Priflythyren, Rhif a Symbol)
Mae modd i chi weld yr holl wybodaeth gan gynnwys fideo gan y Rheolwr ar ein tudalen Course: Cority (learningpool.com). Rydyn ni hefyd yn cynnig Sesiynau Cymorth i Reolwyr dros Microsoft Teams ar y dyddiadau canlynol:
22 Awst 2024 rhwng 12 ac 1pm -Ymuno â’r cyfarfod nawr
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau / pryderon, ffoniwch yr Uned Iechyd Galwedigaethol ar 01443 494003 neu e-bostio YmholiadauIechydaLles@rctcbc.gov.uk.