Rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag Affinity Connect, arbenigwr addysg ariannol, sy'n cynnal cwrs 90 munud o hyd ar-lein sy'n bwrw golwg ar agweddau allweddol ar gynllunio ariannol a lles ariannol.
Bydd y cwrs yma'n nodi gwybodaeth am sut i fanteisio i’r eithaf ar werth eich cyflog net a buddion eich gweithle.
Yn ystod y cwrs, byddwch chi'n dysgu am y pedwar cam allweddol er mwyn bod yn sefydlog yn ariannol:
- Deall eich incwm a chynllunio eich gwariant
- Adolygu a chadw golwg ar eich benthyciadau
- Cynllunio eich amcanion ariannol a pharatoi ar gyfer costau annisgwyl
- Dechrau cynllunio ar gyfer bywyd ar ôl y gwaith, pryd bynnag fo hynny
|