Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda'r arbenigwr lles ariannol 'Affinity Connect', sy'n cynnal amrywiaeth o weithdai lles ariannol ar-lein sydd ar gael i holl staff y Cyngor.
Gweithdai cyn ymddeol
Mae'r cwrs yma'n berffaith i unrhyw un sy'n meddwl am ymddeol neu sydd eisoes yn cynllunio hynny, gan edrych ar agweddau sy’n allweddol o ran cynllunio dyfodol sy'n ddiogel yn ariannol.
Eich Lles Ariannol
Bydd y cwrs yma'n nodi gwybodaeth am sut i fanteisio i’r eithaf ar werth eich cyflog net a buddion eich gweithle.
Manteisio ar eich Lwfans Treth Bersonol
Os ydych chi'n nesáu at eich ymddeoliad ac eisiau ariannu eich pensiwn ymhellach neu os ydych chi eisiau manteisio ar y cyfleodd gostyngiadau treth sydd ar gael i chi drwy gyfraniadau pensiwn, rhaid i chi sicrhau eich bod chi'n ymwybodol o'r Lwfansau Treth Pensiwn.
Am ragor o wybodaeth, i gadw lle neu i weld yr holl achlysuron sydd ar y gweill, ewch i: Affinity Connect
|