Skip to main content

Diwrnod Siwmper Nadolig

 
 
Date(s)
Dydd Iau 12 Rhagfyr 2024
Registration URL
https://donate.justgiving.com/fundraising/cjd240024366/donation-amount
Disgrifiad

Diwrnod Siwmper Nadolig yw achlysur blynyddol elusen Achub y Plant / Save the Children sy'n codi arian ar gyfer plant yn y DU a ledled y byd. Ers 2012, pob mis Rhagfyr mae miliynau o bobl ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig (a thu hwnt!) yn gwisgo dillad Nadoligaidd yn eu gweithle, ysgol neu â ffrindiau ac yn gwneud cyfraniad er mwyn helpu i roi'r dyfodol hudolus y mae plant yn ei haeddu.

Pryd mae e?

Dydd Iau 12 Rhagfyr.

Sut i gymryd rhan?

P'un a ydych chi eisiau cymryd rhan eich hun, neu gyda'ch cydweithwyr, gwisgwch eich siwmper

Nadolig fwyaf lliwgar ar 7 Rhagfyr a rhowch gyfraniad i'r elusen drwy glicio ar y ddolen yma  neu anfon neges destun yn dweud ‘RCT5’ i 70050 i roi £5.

Os dydych chi ddim eisiau prynu siwmper Nadolig newydd, peidiwch â phoeni, mae modd ichi wneud un eich hunain drwy ddefnyddio hen siwmper ac unrhyw addurniadau Nadolig y mae modd i chi ddod o hyd iddyn nhw – fe all fod yn gliter, tinsel, sticeri – gorau po fwyaf!

Rhowch gymaint neu gyn lleied ag y mynnwch ond mae pob ceiniog wir yn gwneud gwahaniaeth. I ganfod y gwahaniaeth y bydd eich arian yn ei wneud, cliciwch yma.

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am hyn, ffoniwch 01443 424100 neu e-bostio: YmholiadauIechydaLles@rctcbc.gov.uk

Submit An Event

Cysylltwch â ni

Carfan Achlysuron Rhondda Cynon Taf

Ebost: achlysuron@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424123

Join us on Facebook
Join us on Twitter