Wyddoch chi fod un dyn yn marw drwy hunanladdiad bob munud o bob awr o bob dydd? Neu wyddoch chi fod canser y ceilliau yn effeithio ar fwy o bobl rhwng 15 a 34 oed nag unrhyw ganser arall?
Dyma pam mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cymryd rhan yn ymgyrch Tashwedd. Dyma ymgyrch sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl, atal hunanladdiad, canser y brostad a chanser y gaill. Ers 2003, mae ymgyrch Tashwedd wedi ariannu mwy na 1,250 o brosiectau iechyd meddwl i ddynion o amgylch y byd, gan roi hwb i waith ymchwil ym maes iechyd dynion a thrawsnewid y ffordd y mae gwasanaethau iechyd yn cysylltu â dynion, a’u cefnogi.
Sut galla i gymryd rhan?
- Tyfwch fwstash. Tyfwch fwstash i ddangos eich bod chi’n cefnogi’r ymgyrch i wella iechyd dynion. Bydd gwneud hyn hefyd yn helpu i dynnu sylw a dechrau sgyrsiau.
- Symudwch eich corff Mae ymgyrch Tashwedd yn ein hannog ni i symud ein cyrff er mwyn cofio’r 60 dyn sy’n marw drwy hunanladdiad bob awr ym mhob rhan o’r byd. Yr unig beth y mae angen i chi ei wneud er mwyn cymryd rhan yw cerdded neu redeg 60 cilomedr. Mae croeso i chi gwblhau'r pellter mewn un tro neu drwy gydol mis Tashwedd.
- Dewch at eich gilydd.Ewch ati i gynnal achlysur o'ch dewis chi sy'n codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer iechyd dynion. Mae modd i hyn fod yn unrhyw beth boed yn ras elusennol, achlysur gwerthu cacennau neu unrhyw achlysur y byddai modd i chi â'ch cydweithwyr ei fwynhau gyda'ch gilydd.
- Cwblhewch eich her eich hun. Beth am fynd ati i ddringo mynydd, curo eich amser gorau, rhoi’r gorau i arfer ddrwg am fis. Gwnewch rywbeth mewn ffordd sy'n gweithio i chi.
- Cyfranwch. Os nad ydych chi'n awyddus i gwblhau gweithgaredd mae modd i chi gyfrannu at yr achos. Dyma'r ddolen ar gyfer y dudalen codi arian lle mae modd i chi gyfrannu er mwyn cefnogi eich cydweithwyr ac ymgyrch Tashwedd
Pa bynnag ffordd rydych chi'n penderfynu codi arian, rhannwch y ddolen yma gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr er mwyn codi arian ar gyfer iechyd dynion.
Rhannwch luniau o'ch mwstashis, gweithgareddau ac achlysuron ar ein tudalen Facebook. Os nad ydych chi'n aelod yn barod, chwiliwch am dudalen 'Rhondda Cynon Taf Council Staff' ac ymuno.
|
|