Ydy'ch cynilion chi ar y trywydd cywir ar gyfer ymddeol?
Ydych chi'n ymwybodol o faint o incwm y bydd eich cynilion pensiwn yn ei ddarparu?
Ydych chi wedi ystyried faint o incwm fyddwch chi ei angen wedi i chi ymddeol?
Rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag Affinity Connect, arbenigwr addysg ariannol, sy'n cynnig cyrsiau 2 awr a 30 munud o hyd ar-lein mewn perthynas ag agweddau allweddol ar gynllunio ar gyfer dyfodol lle mae’ch arian wedi’i ddiogelu. Mae’r cwrs yma wedi’i anelu at staff ysgolion.
Dyw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau cynllunio, hyd yn oed os yw eich ymddeoliad chi dros 10 mlynedd i ffwrdd. Mae'r cwrs yma yn berffaith ar gyfer unrhyw un sy'n ystyried ymddeol neu sydd wrthi’n cynllunio ar gyfer hynny yn barod.
Yn ystod y cwrs byddwch chi'n dysgu sut i wneud y canlynol:
- Helpu chi i gynllunio ar gyfer y newidiadau sydd i ddod o ran eich ffordd o fyw.
- Manteisio i’r eithaf ar fuddion eich Pensiwn Gwladwriaethol a Phensiwn y Gweithle.
- Manteisio i’r eithaf ar eich arian di-dreth.
- Deall y dewisiadau incwm sydd ar gael o ran eich pensiwn chi.
- Sut i gyflawni’ch amcanion ar gyfer ymddeol
Mae modd i chi gadw lle ar gyfer y sesiynau yma a bwrw golwg ar gyrsiau eraill gan Affinity Connect drwy fynd i wefan The Source neu eloise.johnson@rctcbc.gov.uk .
Nodwch, fydd y cyrsiau yn nodi gwybodaeth yn unig. Ni fyddan nhw’n cynnwys cyngor ariannol rheoledig a ni ddylid eu hystyried felly ychwaith.
Rhowch wybod pe hoffech chi dderbyn yr hyfforddiant yma yn Gymraeg.
Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn y Gymraeg.