Term yw'r Menopos sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio adeg naturiol o fywyd unrhyw un sydd wedi profi mislifoedd. Er bod y menopos yn effeithio ar y mwyafrif ohonom ni, boed hynny mewn ffyrdd uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, mae'n parhau i gael ei ystyried fel pwnc tabŵ ac yn aml yn cael ei anwybyddu wrth sgyrsio'n agored.
Dyma pam rydyn ni wedi sefydlu Grŵp Cymorth Menopos. Mae'r grŵp yma:
- Ar gael i bawb, ni waeth eich oed, rhyw, neu rywedd. Mae deall y menopos yn gyfrifoldeb ar bawb!
- Yn lle parchus a diogel ble bydd modd rhannu profiadau, dysgu oddi wrth ein gilydd a gofyn cwestiynau.
Byddwn ni'n cynnal cyfarfodydd rheolaidd lle bydd cyfle i rannu profiadau, dysgu a chyfathrebu â'n gilydd, a gwrando ar siaradwyr gwadd yn rhannu eu gwybodaeth a'u profiadau o'r menopos.
Rydyn ni hefyd wedi sefydlu sianel gaeedig ar Microsoft Teams y mae modd i chi ymuno â hi er mwyn cyfathrebu gyda'n gilydd y tu allan i'r cyfarfodydd.
Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal gan Dr Pippa Meredith ac, yn unol â thema Diwrnod Menopos y Byd, bydd yn canolbwyntio ar therapi hormonau sy'n ymwneud â'r menopos. Byddwn ni'n trafod y gwahanol fathau o driniaeth hormonau a'r risgiau a'r manteision sy'n gysylltiedig â'r driniaeth yma. Bydd cyfle hefyd i chi ofyn cwestiynau.