|
Mae Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar 10 Medi. Mae'r diwrnod yn rhoi cyfle i bobl ledled y byd godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad ac atal hunanladdiad.
Yn rhan o'n hymgyrch i godi ymwybyddiaeth ar gyfer Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, byddwn ni'n cynnal ein sesiynau Gadewch i ni siarad am Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad. Nod y sesiwn ydy codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad trwy rannu rhywfaint o wybodaeth a thaflu goleuni pellach ar y pwnc, gan gynnwys pwysigrwydd atal hunanladdiad, nodi arwyddion a symptomau cyffredin, a dysgu ble gallwch chi gyfeirio unrhyw un a allai fod yn meddwl am hunanladdiad.
|