Skip to main content

Cyrsiau Affinity - Mis Ymwybyddiaeth Straen

 
 
Date(s)
Dydd Mawrth 1 - Dydd Mercher 30 Ebrill 2025
Cyswllt
bookings@affinityconnect.org
Registration URL
https://affinityconnect.event-administration.co.uk/menu/rhondda-cynon-taf-county-borough-council-menu.html
Disgrifiad

Efallai rydych chi'n cael eich llethu gan arian, mae materion ariannol yn gallu ychwanegu straen at ein bywydau. Yn unol â'n Strategaeth Lles yn y Gweithle ac yn rhan o Fis Ymwybyddiaeth Straen, hoffen ni dynnu eich sylw at y cyrsiau lles ariannol sy'n cael eu cynnal gan yr arbenigwyr ariannol, Affinity. Wrth fynychu'r cyrsiau yma, mae modd i chi ddysgu sut mae rheoli eich arian yn y ffyrdd mwyaf effeithiol i chi, gan dynnu ar wybodaeth gan arbenigwyr.

Gweithdai cyn ymddeol

Mae'r cwrs yma'n berffaith i unrhyw un sy'n meddwl am ymddeol neu sydd eisoes yn cynllunio, gan edrych ar agweddau sy’n allweddol o ran cynllunio dyfodol sy'n ddiogel yn ariannol.

-          Dydd Iau 17 Ebrill 1pm–3.30pm (Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol [LGPS])

-          Dydd Iau 15 Mai 9.30am–12.30pm (Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol [LGPS])

-          Dydd Mercher 4 Mehefin 9.30am–12pm (Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol [LGPS])

-          Dydd Gwener 20 Mehefin 4pm–5.30pm (Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol [LGPS])

Eich Lles Ariannol

Bydd y cwrs yma'n nodi gwybodaeth am sut i fanteisio i’r eithaf ar werth eich cyflog net a buddion eich gweithle.

-          Dydd Iau 3 Gorffennaf 1pm–2.20pm

Manteisio ar eich Lwfans Treth Bersonol

Os ydych chi'n nesáu at eich ymddeoliad ac eisiau ariannu eich pensiwn ymhellach neu os ydych chi eisiau manteisio ar y cyfleodd i hawlio gostyngiadau treth sydd ar gael i chi drwy gyfraniadau pensiwn, rhaid i chi sicrhau eich bod chi'n ymwybodol o'r Lwfansau Treth Pensiwn.

-          Dydd Llun 12 Mai 10am–11am

Am ragor o wybodaeth, i gadw lle neu i weld yr holl achlysuron sydd ar y gweill, ewch i: Affinity Connect

Rhowch wybod pe hoffech chi dderbyn yr hyfforddiant yma yn Gymraeg. 

Digwyddiadau i ddod

Dim canlyniadau yn bodloni eich meini prawf chwilio.

Cysylltwch â ni

Carfan Achlysuron Rhondda Cynon Taf

Ebost: achlysuron@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424123

Join us on Facebook
Join us on Twitter