Skip to main content

Salary Finance

 
 
Date(s)
Dydd Mawrth 1 - Dydd Mercher 30 Ebrill 2025
Cyswllt

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r llinell gymorth lles staff

E-bost: LlinellGymorth@rctcbc.gov.uk,

Ffôn: 01443 424100

Registration URL
https://home.salaryfinance.com/rctcbc?utm_campaign=q2_comms_2025&utm_source=zapier&utm_content=sam_25_less_stress
Disgrifiad

Mis Ebrill yw mis Ymwybyddiaeth Straen, amser i adlewyrchu ar y pwysau rydyn ni'n eu hwynebu yn ddyddiol. Mae nifer o bobl yn teimlo straen o ganlyniad i faterion ariannol, yn enwedig pan mae'n teimlo fel does dim cymorth ar gael. Yn y Deyrnas Unedig, mae 1 ym mhob 4 person yn teimlo straen ariannol, a does dim mynediad at gynhyrchion ariannol hanfodol gan 20.2 miliwn o bobl.

Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Straen, mae'n gyfle i ni gofio bod modd i ni deimlo straen ariannol achos dydyn ni ddim yn siŵr sut mae rheoli ein harian. Os ydych chi erioed wedi cael eich trechu gan faterion ariannol neu wedi teimlo eich bod chi ar ei hôl hi, dydych chi ddim ar ben eich hunain.

Does dim rhaid i arian fod yn gymhleth, mae nifer o adnoddau ar gael a all fod o gymorth i chi.

I ddechrau arni, bwriwch olwg ar lwyfan Salary Finance Learn, sy'n cynnwys:

●             Fideos a ffrydiau byw: Cynnwys diddorol er mwyn eich helpu chi i ddeall pynciau ariannol allweddol mewn ffordd ryngweithiol.

●             Cynnwys cryno: Blogiau ac erthyglau byr y mae modd eu darllen mewn 5 munud, sy'n berffaith ar gyfer dysgu pan mae amser yn brin.

●             Adnoddau ac amcangyfrifydd: Adnoddau defnyddiol i olrhain eich arian, gan cynnwys yr Amcangyfrifydd Gwell Eich Byd, a fydd yn nodi os ydych chi'n gymwys am gymorth gan y Llywodraeth.

●             Awgrymiadau rheoli dyled: Datrysiadau a strategaethau syml i'ch helpu chi reoli a lleihau eich dyled heb y straen.

Gan ddefnyddio 'Salary Finance' mae hefyd modd:

●             Benthyg: Benthyciadau fforddiadwy gydag ad-daliadau sy'n cael eu tynnu o'ch cyflog. Cyfradd Ganrannol Flynyddol Gynrychiadol 13.9% APR (sefydlog).

Eisiau pryderu llai am arian? Ewch i Salary Finance i bori trwy'r adnoddau sydd ar gael.

Sylwch: Opsiwn yw hwn, nid argymhelliad. Dydy'ch cyflogwr ddim yn elwa o gynnig y gwasanaeth yma a byddwch chi'n cyfathrebu â Salary Finance yn unig. Caiff ceisiadau am fenthyciad eu hasesu i sicrhau bod y benthyciad yn briodol ac yn fforddiadwy i chi. Mae'r cynnwys “Learn” at ddibenion cyngor ac addysg yn unig ac mae'n gyffredinol ei natur. Dydy Salary Finance ddim yn cynnig cyngor ariannol rheoledig. Mynnwch gyngor ariannol annibynnol.

Digwyddiadau i ddod

Dim canlyniadau yn bodloni eich meini prawf chwilio.

Cysylltwch â ni

Carfan Achlysuron Rhondda Cynon Taf

Ebost: achlysuron@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424123

Join us on Facebook
Join us on Twitter