Ydy pryderu yn rhwystr i chi rhag gwneud pethau, neu'n mwynhau?
Ymunwch â ni ar gyfer ein gweithdy yn y gyfres 'Yr Awr Wella' ar reoli pryder.
Nod y sesiwn yma yw helpu i rannu dealltwriaeth o'r rhesymau y gall pobl brofi teimladau o bryder. Byddwn ni'n edrych ar strategaethau i helpu pobl i reoli unrhyw deimladau annifyr, a bydd cyfle i ofyn cwestiynau.
Sylwch, fydd y sesiwn yma ddim yn rhoi cyngor personol, dim ond argymhellion cyffredinol y byddwn yn eu rhoi. Yn ogystal, dyw'r sesiwn hon ddim wedi'i hanelu at anhwylderau gorbryder sydd wedi cael barn feddygol, ond yn hytrach, pobl sy'n profi pryder, gor-bryder a theimladau o orlethu o bryd i'w gilydd.
Hoffech chi dderbyn yr hyfforddiant yma drwy gyfrwng y Gymraeg? Hoffwn / Na Hoffwn
Mae angen o leiaf 6 person i gymryd rhan ym mhob cwrs ac mae hyn yn berthnasol i bob cwrs, waeth beth yw’r dewis iaith. Yn anffodus, os bydd llai na 6 o bobl, fydd y cwrs ddim yn rhedeg gan ei bod hi'n rhy ddrud i'w gynnal o dan y fath amgylchiadau. Gofynnwn yn garedig i chi hefyd rhoi digon o rybudd os na fyddwch chi'n gallu dod i ryw gwrs penodol rydych chi wedi cadw lle ar ei gyfer (5 diwrnod fan hwyraf), er mwyn inni benderfynu p'un ai i fwrw ymlaen â chynnal y cwrs neu beidio.