Dych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn wynebu'r Menopos?
Ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut i gefnogi pobl sy'n mynd trwy'r cyfnod naturiol yma yn eu bywyd?
Ymunwch â ni ar gyfer ein caffi menopos rhithiol!
Staff Iechyd Galwedigaethol fydd yn cynnal y Caffi Menopos Rhithiol a bydd y sawl sy'n cymryd rhan yn dysgu am y menopos ac am brofiadau menywod sydd wedi bod trwy'r cyfnod. Bydd y sesiwn hefyd yn gyfle i drafod problemau a symptomau'r menopos, a chael cymorth a datrysiadau i reoli'r symptomau. Bydd y sesiwn yn trafod sut i fyw bywyd cadarnhaol yn y cartref neu yn y gweithle, ac yn trafod y gefnogaeth sydd ar gael.
Mae'r menopos yn effeithio arnom ni i gyd, boed hynny'n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol a bydd profiadau pawb yn wahanol. Mae 74% o weithlu Cyngor Rhondda Cynon Taf yn fenywod. Os ydych chi neu eich partner yn mynd trwy'r menopos, neu os ydych chi'n rheolwr/gydweithiwr i rywun sy'n mynd trwy'r cyfnod anodd yma, mae'n hollbwysig eich bod chi'n deall y menopos, ei effaith a sut i gefnogi'r rheini sy'n ei brofi.
Dyma pam ein bod ni'n cynnal ein caffi menopos rhithiol – achlysur sy'n agored i bawb ac rydyn ni'n annog pawb i gymryd rhan.