Skip to main content

Salary Finance - Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

 
 
Date(s)
Dydd Llun 12 - Dydd Sul 18 Mai 2025
Cyswllt

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r llinell gymorth lles staff

E-bost: LlinellGymorth@rctcbc.gov.uk,

Ffôn: 01443 424100

Registration URL
http://home.salaryfinance.com/rctcbc
Disgrifiad

Mae modd i faterion ariannol deimlo'n ormod, yn enwedig wrth fynd i'r afael â dyled neu gael trafferth cynilo arian. Bydd Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl rhwng 12 a 18 Mai 2025 yn gyfle gwych i atgoffa ein hunain nad oes rhaid i faterion ariannol fod yn gymhleth. Mae Salary Finance yn gynllun buddion i weithwyr sydd ar gael i chi – maen nhw'n cynnig adnoddau er mwyn symleiddio materion ariannol er mwyn helpu i dawelu eich meddwl.

Ymunwch â Ffrwd Byw Salary Finance

Bydd yr arbenigwr arian Abby Birch yn rhannu argymhellion ymarferol mewn perthynas â rheoli dyled a chynilo rhagor. Bydd gyda chi gyfle hefyd i ofyn cwestiynau iddi'n fyw! Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ddydd Mercher, 14 Mai.

Cadwch eich lle heddiw! Dewiswch eich slot amser trwy gofrestru yma.

Bydd Salary Finance yn cynnal ffrwd byw: 'Dulliau Craff o Leihau Dyled a Chynilo Arian' er mwyn eich helpu chi i ddod o hyd i ddulliau ymarferol o reoli eich arian yn hyderus. Bydd yr arbenigwr arian Abby Birch yn rhannu argymhellion ymarferol mewn perthynas â rheoli dyled a chynilo rhagor. Bydd gyda chi gyfle hefyd i ofyn cwestiynau iddi'n fyw!

Amser: Dydd Mercher, 14 Mai
Lle: Ar-lein – ymunwch o unrhyw le!

Cadwch eich lle heddiw! Dewiswch eich slot amser trwy gofrestru yma.

Symleiddiwch eich dyled

Mae Salary Finance yn cynnig benthyciadau a all eich helpu chi i gyfuno eich dyledion yn un taliad hylaw, gan ei gwneud hi'n haws i reoli eich materion ariannol a chaniatáu i chi gynilo eich arian. Bwriwch olwg ar ei ganllaw cam wrth gam yn ymwneud â sut mae cyfuno dyled gyda Salary Finance yn gweithio.

Cynilwch eich arian
Does dim rhaid i adeiladu rhwyd diogelwch ariannol fod yn gymhleth. Trwy osod nodau cynilo bach rheolaidd mae modd i chi adeiladu cronfa wrth gefn yn raddol.

Hoffech chi ddysgu sut mae modd i Salary Finance eich helpu chi? Ewch i home.salaryfinance.com/rctcbc i ddechrau arni.*

Cofiwch, mae Vivup yno i drafod unrhyw faterion gyda chi ac mae modd i chi gysylltu â nhw:

*Sylwch: Opsiwn yw hwn, nid argymhelliad. Dydy'ch cyflogwr ddim yn elwa o gynnig y gwasanaeth yma a bydd eich holl gyfathrebiadau gyda Salary Finance. Caiff ceisiadau am fenthyciad eu hasesu i sicrhau bod y benthyciad yn briodol ac yn fforddiadwy i chi. Mae'r cynnwys “Learn” at ddibenion arweiniad ac addysg yn unig ac mae'n generig ei natur. Dydy Salary Finance ddim yn cynnig cyngor ariannol rheoledig. Mynnwch gyngor ariannol annibynnol.

Digwyddiadau i ddod

Dim canlyniadau yn bodloni eich meini prawf chwilio.

Cysylltwch â ni

Carfan Achlysuron Rhondda Cynon Taf

Ebost: achlysuron@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424123

Join us on Facebook
Join us on Twitter