Skip to main content

Campfa Newydd ar gyfer Pwll Bronwydd

 
Mae gwaith adfywio nodedig Cyngor Rhondda Cynon Taf i Bwll Nofio Bronwydd bellach wedi’i gwblhau, ac mae’r gampfa newydd o’r radd flaenaf ar agor. Mae hyn oll yn rhan o fuddsoddiad y Cyngor gwerth £1.7 miliwn mewn cyfleusterau hamdden.

Mae Pwll Nofio Bronwydd wedi gweld trawsnewidiad sylweddol, sy’n cynnwys gwaith gwella i’r pwll nofio ac ardal yr ystafelloedd newid, derbynfa newydd a’r gampfa newydd sbon gyda’r cyfarpar diweddaraf a staff wrth law i’ch helpu chi i wneud y mwyaf o’ch sesiwn ymarfer.

Bronwydd Gym

Aeth y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Diwylliant, i Bwll Bronwydd i agor y gampfa newydd yn swyddogol.

Meddai: “Pwll Nofio Bronwydd yw’r cyfleuster hamdden diweddaraf i fanteisio ar raglen buddsoddi barhaol gwerth £23 miliwn. Mae’r rhaglen yn gweld buddsoddiadau i feysydd blaenoriaeth ar ran ein cymunedau. Bydd hyn yn cynnwys datblygu caeau 3G yn Rhondda Cynon Taf.

“Mae’r gampfa newydd ym Mronwydd yn dilyn agoriad ystafell ffitrwydd newydd yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen Wen. Bydd cyfleusterau gwell yng Nghanolfannau Chwaraeon Abercynon a Chwm Rhondda ar gael yn fuan.

“Mae buddsoddi mewn canolfannau hamdden, a chreu aelodaeth Hamdden am Oes hawdd a fforddiadwy sy’n cynnwys mynediad cynhwysol i gampfeydd, pyllau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a chwaraeon dan do ym mhob un o’n canolfannau yn dangos ein hymrwymiad i wasanaethau hamdden.

“Byddwn ni yn parhau i wireddu’r ymrwymiad yma, ac mae Pwll Nofio newydd Bronwydd gyda’r gampfa bellach ar agor. Mae modd cofrestru ar-lein am aelodaeth Hamdden am Oes. Does dim esgus i beidio â phlymio i’r pen dwfn!”

Mae modd i chi fwynhau mynediad diderfyn i’r pwll a’r gampfa ym Mhwll Bronwydd (gan gynnwys gwersi nofio) os oes gennych chi aelodaeth Hamdden am Oes.

Mae aelodaeth Hamdden am Oes yn cynnig mynediad diderfyn i’r cyfleusterau campfa, nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a chwaraeon dan do ym mhob un o Ganolfannau Hamdden Cyngor Rhondda Cynon Taf. Felly cewch chi ymweld ag unrhyw ganolfan hamdden yr hoffech chi gan ddibynnu beth sy’n digwydd a ble ydych chi!