Skip to main content

Dan-Y-Mynydd

 
Bydd y cynllun tai gofal ychwanegol penodol yma yn cael ei ddarparu yn 2026, wedi i'r prif gam adeiladu ailddechrau yn 2024. Bydd yn darparu 60 o welyau gofal ychwanegol ar safle hen Gartref Gofal Preswyl Dan y Mynydd mewn partneriaeth â Linc Cymru, yn ogystal â chyfleusterau modern eraill gan gynnwys darpariaeth canolfan oriau dydd.

Dan-y-Mynydd Construction

Mae'r adeilad pedwar llawr newydd wrthi'n cael ei adeiladu oddi ar Goedlan Bronwydd, a bydd y datblygiad ehangach yn cynnwys ystafell fwyta, salon trin gwallt, ystafell weithgareddau, canolfan gofal oriau dydd a swyddfeydd, yn ogystal â maes parcio allanol ar gyfer ymwelwyr.

Y llety yma yn ardal Porth fydd y pedwerydd cynllun tai gofal ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf wedi iddo gael ei gwblhau (yn dilyn Tŷ Heulog yn Nhonysguboriau, Maes-y-ffynnon yn Aberaman a Chwrt yr Orsaf ym Mhontypridd). Bydd cymorth ar y safle ar gael 24/7 i'r preswylwyr ar gyfer eu hanghenion sydd wedi'u hasesu, gan eu galluogi nhw i fyw yn annibynnol am gyhyd â phosibl.

Y diweddaraf am safle'r datblygiad Gofal Ychwanegol parhaus yn ardal Porth (Ebrill 2025)

Mae Intelle Construction yn darparu'r prif gam adeiladu ar ran y Cyngor a Linc Cymru. Ailddechreuodd Intelle y gwaith ar y safle yn 2024, wedi i gontractwr gwreiddiol y prosiect fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Cafodd adeiladau'r hen gartref gofal eu dymchwel a rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad gofal ychwanegol yn 2021.

Bydd y Cyngor yn parhau i ddarparu diweddariadau rheolaidd yn ystod cerrig milltir allweddol dros y misoedd i ddod, wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen tuag at ei gwblhau yn 2026. Cafodd y ffotograffau ar y dudalen yma eu tynnu yn ystod ymweliad safle 

Dan-y-Mynydd Hallway
Dan-y-Mynydd Internal
Dan-y-Mynydd Groundwork