Mae Arweinydd y Cyngor a'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ymweld â'r safle adeiladu yn ardal Porth, lle mae gwaith i ddarparu ein datblygiad tai gofal ychwanegol newydd yn parhau. Gwelon nhw drostyn nhw eu hunain y cynnydd da sy'n cael ei wneud i ddarparu'r datblygiad o'r radd flaenaf gyda Linc Cymru (Linc).
Y llynedd, dechreuodd contractwr y prosiect, Intelle Construction, waith ar hen safle Cartref Gofal Dan y Mynydd er mwyn ailddefnyddio'r ardal yn ddatblygiad o'r radd flaenaf a fydd yn adeilad â phedwar llawr gyda 60 o fflatiau gofal ychwanegol. Bydd yr adeilad modern yn cynnwys ardal fwyta, salon trin gwallt, ystafell weithgareddau, canolfan oriau dydd a swyddfeydd, yn ogystal â maes parcio allanol.
Aeth y Cynghorydd Andrew Morgan OBE a'r Cynghorydd Gareth Caple i'r safle gwaith ddydd Mercher 2 Ebrill lle cawson nhw daith o gwmpas y safle datblygu gyda'r contractwr, ynghyd â chynrychiolwyr partner y Cyngor, Linc.
Mae'r contractwr wedi gwneud cynnydd cadarnhaol ar y safle gyda'r gwaith brics yn ardaloedd y llawr gwaelod uchaf ar gyfer pedwar drychiad yr adeilad newydd. Mae gwaith gosod fframiau ffenestri bron wedi'i gwblhau, ac mae gwaith gwydro yn cael ei gynnal ar y llawr cyntaf. Mae gwaith gosod byrddau gwrthsefyll tân o gwmpas y trawstiau dur wrthi'n cael ei gynnal, ac mae gwaith gosod plastrfyrddau mewnol wedi dechrau ar y llawr gwaelod uchaf. Mae tasgau pwysig eraill yn cael eu gwneud ar draws yr adeilad, megis gosod y systemau taenellu ac awyru.
Y tu allan, mae bron i hanner to'r prif adeilad wedi'i osod ac mae'r is-orsaf wedi'i gosod gyda cheblau ar y safle wedi'u cysylltu â'r ystafell beiriannau.
Un o'r prif weithgareddau nesaf sydd i'w wneud ar y safle dros y misoedd nesaf fydd cwblhau'r gwaith brics i raddau helaeth. Ar ôl cwblhau'r drychiad gorllewinol, bydd y craen mawr yn cael ei symud a bydd y to yn cael ei gwblhau. Bydd gwaith gwydro ffenestri'r adeilad yn cael ei gwblhau, gan sicrhau bod yr adeilad yn dal dŵr. Carreg filltir arall fydd sicrhau bod y trydan i'r safle yn fyw.
Mae disgwyl i'r cynllun cyffredinol gael ei gwblhau yn ystod y gwanwyn 2026, a bydd y Cyngor a Linc yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am gamau allweddol y datblygiad wrth i ragor o gynnydd gael ei wneud dros y misoedd nesaf.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae'r datblygiad cyffrous yma yn ardal Porth yn dangos ein bod ni'n parhau i gyflawni'n hymrwymiad i foderneiddio opsiynau llety gofal i bobl hŷn a pharhau i gynyddu nifer y gwelyau gofal ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf er mwyn bodloni angen. Y cynllun yn ardal Porth fydd y trydydd datblygiad gofal ychwanegol i gael ei ddarparu'n lleol dros y blynyddoedd diwethaf, mewn partneriaeth â Linc, yn dilyn Maesyffynnon yn Aberaman a Chwrt yr Orsaf yn ardal Graig.
“Rydyn ni hefyd yn bwrw ymlaen â gwaith i ddarparu llety gofal arbenigol yn ardal Gelli, tra bod gwaith clirio safle yn cael ei gwblhau yn Aberpennar ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi ar gyfer datblygiad modern a fydd yn cynnwys tai gofal ychwanegol, llety gofal dementia preswyl a llety 'Byw'n Hŷn'. Hefyd, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu dau lety gofal newydd yng Nglynrhedynog a Phentre'r Eglwys yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar ofal dementia preswyl a chyfleusterau byw â chymorth i oedolion ag anableddau dysgu.
“Es i i'r safle gwaith yn ardal Porth yn yr haf y llynedd i weld y gwaith seilwaith cychwynnol yn cael ei gwblhau, a'r sylfeini'n cael eu gosod ar gyfer yr adeilad newydd. Mae dychwelyd i'r safle ddydd Mercher wedi dangos y cynnydd sylweddol sy'n cael ei wneud. Mae'r prosiect yn darparu llety gofal newydd o'r radd flaenaf ac yn sicrhau defnydd ardderchog o safle amlwg, a oedd yn gartref gofal yn flaenorol.”
Ychwanegoddy Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae'n wych gweld y prosiect yma'n mynd rhagddo. Mae'r cyfleuster yma'n rhan o'n hymrwymiad i fuddsoddi bron i £100 miliwn mewn cyfleusterau gofal cymdeithasol newydd ledled Rhondda Cynon Taf.
“Mae gofal ychwanegol yn helpu pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain am gyhyd â phosibl, gyda chymorth 24/7 ar gael ar gyfer eu hanghenion wedi'u hasesu. Maen nhw'n darparu cyfleusterau modern, braf, ac yn bwriadu creu cymuned yn yr adeilad – wrth annog preswylwyr i gymryd rhan mewn rhyngweithio ystyrlon yn eu cymunedau lleol ehangach. Mae ein dau gynllun yn Aberaman a Graig sydd wedi'u darparu'n ddiweddar yn parhau i fod yn hybiau poblogaidd, ac mae cynllun Porth wedi'i dargedu i ddiwallu angen am lety o'r fath yn lleol.
“Hoffwn i ddiolch i garfan y contractwr am ein croesawu ni i'r safle er mwyn gweld gwaith y buddsoddiad pwysig yma'n parhau. Mae'r cynnydd i'w weld yn glir – gyda phob drychiad bellach yn ei le a chynnydd da o ran elfennau allweddol megis y to a'r ffenestri. Rwy'n edrych ymlaen at weld cynnydd pellach tuag at ddarparu'r cynllun yn gynnar y flwyddyn nesaf.”
Ychwanegodd Jo Yellen, Rheolwr Prosiect yn Linc: “Mae'n wych gweld y cynnydd sy'n cael ei wneud ar y safle wrth i ni weithio tuag at gyflawni'r datblygiad Gofal Ychwanegol hwn y mae wir ei angen yn ardal Porth. Mae ein partneriaeth gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf yn canolbwyntio ar ddarparu cartrefi o safon uchel sy'n darparu'r cymorth cywir i helpu pobl i fyw'n annibynnol mewn cymuned ddiogel a chroesawgar. Wrth i’r gwaith adeiladu barhau i symud yn ei flaen, rydyn ni'n gyffrous i weld bod y prosiect yn agosáu at gael ei gwblhau ac edrychwn ymlaen at groesawu preswylwyr y flwyddyn nesaf.”
Wedi ei bostio ar 03/04/2025