Skip to main content

Buarth y Capel

Mae'r Cyngor yn buddsoddi mewn prosiect adnewyddu ac ehangu ar gyfer darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Buarth-y-Capel yn Ynys-y-bwl. Bydd y datblygiad o'r radd flaenaf, y mae disgwyl iddo gael ei gwblhau yn ystod blwyddyn academaidd 2027, yn cynnwys bloc addysgu annibynnol modern yn ogystal â gwelliannau i'r adeilad presennol.

Safle lloeren Ysgol Tŷ Coch yw Buarth-y-Capel. Mae'r safle'n canolbwyntio ar gynnig darpariaeth ar gyfer disgyblion 14 i 19 oed sydd wedi cael diagnosis o Anhwylder y Sbectrwm Awtistig difrifol neu ddwys, sydd angen darpariaeth bwrpasol y tu hwnt i feini prawf ysgol ADY gyffredinol. Bydd y cynigion gwerth miliynau o bunnoedd yn sicrhau bod modd i'r safle barhau i ddiwallu anghenion addysgol y disgyblion yn y dyfodol.

Buarth y Capel birds eye view

Bydd gan y bloc addysgu newydd chwe ystafell ddosbarth, ac yn cynnwys ystafelloedd trafod, ystafell hylendid, toiledau hygyrch, ac ystafell cynnal a chadw/ystafell beiriannau. Bydd yr adeilad unllawr newydd yn bodloni safonau'r 21ain Ganrif, ac yn cael ei adeiladu ar ochr ddwyreiniol yr ysgol bresennol. Bydd y ddau adeilad wedi'u cysylltu gan lwybr cerdded â chanopi. Cafodd caniatâd cynllunio ei roi ym mis Awst 2026.

Cynlluniau cyffrous i ymestyn ysgol ADY yn Ynys-y-bwl wedi'u cymeradwyo (Awst 2026)

Bydd gwaith cysylltiedig yn cynnwys darparu paneli ffotofoltaidd ar y to sy'n wynebu'r de, ardal chwarae meddal, maes parcio newydd sy'n cynnwys 18 man parcio i'r gogledd o'r safle, gan gynnwys pedwar man parcio hygyrch, cysgodfa beiciau â 6 chilfach, ffens ddiogelwch newydd, a gatiau rheoli mynediad. Yn ogystal â hyn, bydd y safle'n cael ei ailgyflunio i gynnwys system unffordd i gerbydau a bydd yr adeilad presennol yn cael ei wella.

buarth y capel school

Bydd y datblygiad yn cyflawni statws gweithredu Carbon Sero-Net, gan gydymffurfio â nodau a rhwymedigaethau'r Cyngor o ran Newid yn yr Hinsawdd.

Bydd y buddsoddiad yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. EPT yw'r pensaer a gafodd ei benodi i ddylunio'r adeilad, a Knox and Wells yw'r contractwr sydd wedi'i benodi i gyflawni'r gwaith adeiladu.