Skip to main content

Ysgol Gyfun y Pant

Ym mis Ionawr 2017, symudodd disgyblion i mewn i gyfleusterau arbennig newydd Ysgol Y Pant yn dilyn gwaith ailddatblygu.  Gyda chymorth gan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi llwyddo i fuddsoddi £24.1miliwn er mwyn gwella'r amgylchedd dysgu a'r cyfleusterau sydd ar gael i ddisgyblion, staff, a chymuned  Ysgol Gyfun y Pant.

Mae'r cyfleusterau newydd yn cynnwys mannau addysgu gwyddoniaeth, celf, technoleg bwyd a dylunio a thechnoleg newydd; ystafelloedd dosbarth TGCh arbennig, darlithfa, ffreutur fodern, llyfrgell newydd, prif neuadd wych, cyfleusterau arbennig ar gyfer y chweched dosbarth, cae chwarae 3G sydd wedi'i lifoleuo ac Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGA).

Roedd cam olaf y prosiectyn cynnwys dymchwel yr hen adeiladau a thynnu'r ystafelloedd dosbarth symudol oddi ar y safle. Mae'r gwaith creu mannau chwarae awyr agored, sy'n cynnwys dau gae chwarae ar gyfer pêl-droed a rygbi yn parhau. Rydyn ni'n rhagweld y bydd y gwaith yma'n cael ei gwblhau erbyn Gwanwyn 2018. 

Argraff artist o'r ysgol newydd

Argraff artist o'r tu mewn i'r adeilad ysgol newydd.

Argraff artist

artist-impression---y-pant
Artist-Building---YPant
y-pant-artist-impression-In

Delweddau cynnydd

Y Pant School - externals -12
Y Pant - buildings
_V6A2185

 

Loose furniture and photography by bof.Loose furniture & photography by bof.

Pupil toilets

Dining hallLoose furniture & photography by bof.