DASPA
O ran materion Alcohol a Chyffuriau, DASPA yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pobl sy'n chwilio am gymorth neu gyngor ynghylch camddefnyddio cyffuriau ac alcohol ledled Cwm Taf.
Mae DASPA yn rhoi cyngor ac yn cyfeirio defnyddwyr gwasanaeth, pobl ifanc, rhieni, aelodau o'r teulu ac eraill sy'n pryderu i'r gwasanaethau mwyaf priodol, gan sicrhau bod modd iddyn nhw gyrraedd y cymorth sydd ei angen yn hawdd ac yn gyflym.
Pe hoffech chi siarad â rhywun yn rhad ac am ddim, ac yn gyfrinachol, ffoniwch DASPA.
Ffôn: 0300 333 0000