In Partnership with Rhondda Cynon Taf County Borough Council

Cystadleuydd y Gemau Olympaidd o Rondda Cynon Taf yn ennill prif wobr

SB2

Mae lleoliad gwaith yn Vision Products sawl blwyddyn yn ôl wedi arwain at swydd amser llawn i Simon Bould - a gwobr arbennig i'w harddangos gyda'i fedalau aur Olympaidd.

Mae'r dyn ifanc 27 oed o'r Porth wedi bod ar siwrnai a newidiodd ei fywyd ers gadael Ysgol Hen Felin i ddechrau swydd yn brentis gyda chwmni arobryn y Cyngor, Vision Products, a fu'n dathlu 25 mlynedd o fusnes yn ddiweddar.

Mae Vision Products yn fusnes sy'n cael ei gefnogi gan Gyngor RhCT. Mae'n darparu cyflogaeth a chyfleoedd datblygu i bobl gydag anableddau yn yr ardal.

Mae Simon Bould wedi gweithio i Vision Products ers dros 10 mlynedd. Yn ystod y cyfnod yma, trwy ddyfalbarhad, brwdfrydedd ac ymroddiad personol, mae wedi newid o fod yn unigolyn a oedd yn cael trafferth gyda'i sgiliau cyfathrebu i un sydd bellach yn gallu gweithio'n annibynnol ac sy'n cynhyrchu gwaith o safon uchel.

I ddechrau, bu Simon yn gweithio yn yr adran adnewyddu yn Vision Products, gan ymgymryd ag ystod o wahanol swyddogaethau o adnewyddu amrywiaeth o offer cymunedol i gynorthwyo i ddadlygru'r cynhyrchion yn ardal yr ystafell ymolchi. 

Ar ôl dangos drwy gydol y cyfnod yma fod ganddo ystod o sgiliau a galluoedd y byddai modd eu datblygu ymhellach, mae Simon bellach yn ymwneud â phob agwedd ar y gwasanaeth offer cymhleth ac yn ddiweddar, cafodd ei benodi i swydd arbenigol fel Technegydd Offer Cymhleth - ef yw'r unig berson sy'n gwneud y swydd yma o fewn y busnes.

Mae ei hyder hefyd wedi tyfu i'r fath raddau fel ei fod wedi mentora pobl ifainc eraill ac mae ganddo aelod arall o staff yn gweithio yn ei garfan, y mae'n rhoi cyfeiriad a chefnogaeth iddo.

Mae datblygu o fewn y swydd yma a dod yn 'arbenigwr' yn y gwasanaeth yn wirioneddol ryfeddol.  Er ei fod ag anhawster dysgu, mae wedi dangos bod y gallu gydag ef i ddysgu gwybodaeth dechnegol iawn a'i defnyddio mewn sefyllfa waith, a hynny drwy gael y cymorth iawn ac addasiadau yn y gweithle.  

Does dim gweithiwr gwasanaeth offer cymunedol arall sydd â'r sgiliau sydd gan Simon yng Nghymru i ymgymryd â'r gwasanaeth yma. Mae hyn yn dangos ei fod yn unigolyn gwirioneddol anhygoel.

O ganlyniad i'w holl waith caled a'i ddycnwch, mae Gwobr David Grainger i Weithwyr wedi cael ei dyfarnu i Simon Bould yn Seremoni Wobrwyo flynyddol Cymdeithas Cyflogaeth â Chymorth Prydain sy'n cael ei chynnal ym Milton Keynes.

Mae'r gwobrau yma'n cydnabod ac yn dathlu arfer rhagorol ym maes cyflogaeth â chymorth yn y DU ac yn canolbwyntio ar hyrwyddo'r gwaith rhyfeddol sy'n digwydd ar draws y wlad i helpu pobl ag anableddau, ac anfanteision eraill, i gael y cymorth i gyflawni eu dyheadau gwaith a chadw eu gwaith cyflogedig. 

Cafodd y wobr ei chyflwyno i Simon oherwydd ei ymrwymiad rhagorol i'r busnes a gwneud gwahaniaeth yn ei weithle yn ogystal ag yn y gymuned leol. 

Mae pawb sy'n cael y pleser o gyfarfod â Simon yn edmygu'r hyn y mae wedi'i gyflawni yn ystod ei gyfnod yn gweithio yn Vision Products ac mae'n boblogaidd ymhlith ei gydweithwyr yn ogystal â'i gyfoedion. 

Mae bellach yn ddyn ifanc hyderus ac mae'n ymwneud llawer â chwrdd â chleientiaid, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol a rhoi cyngor i therapyddion. 

Y tu allan i'r gweithle, mae Simon hefyd yn adnabyddus ym myd chwaraeon.

Mae'n angerddol am fowlio, ac yn 2017 cystadlodd Simon yng Ngemau Olympaidd Arbennig Prydain Fawr a gafodd eu cynnal yn Sheffield. Llwyddodd i ennill nid yn unig un, ond DWY fedal aur yng nghategori'r dynion (i barau ac i grwpiau o dri).

Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a'r Gymraeg: “Rydyn ni i gyd mor falch o gyflogaeth a chyflawniadau chwaraeon Simon ac rydyn ni wrth ein bodd ei fod wedi cael ei gydnabod gyda gwobr fawreddog David Grainger.

“Dydy ei daith e ddim wastad wedi bod yn un hawdd, ond mae Simon wedi dod yn aelod allweddol o garfan offer plant arbenigol Vision Products, sy'n wasanaeth sy'n cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru fel Gwasanaeth o Ragoriaeth. 

"Mae gan Vision Products weithlu arbennig, maen nhw'n frwdfrydig iawn am eu swyddi a gweithgynhyrchu cynnyrch o'r radd flaenaf. Mae eu pencadlys bob amser yn fwrlwm o weithgarwch, a dydy hi ddim yn bosibl i unrhyw ymwelydd ddianc rhag y croeso cynnes sy'n cael ei gynnig iddo. 

 “I ddechrau, derbyniodd Simon ystod eang o hyfforddiant mewnol yn Vision Products, yr oedd yn ei groesawu ac mae hyn wedi arwain at ei ddatblygiad gyrfa arobryn. 

“Mae wedi trawsnewid o unigolyn nad oedd gydag ef fawr o hyder i un sydd wedi rhagori yn ei swydd ac mae'n enghraifft wych o weithiwr rhagorol a'r hyn y mae modd ei gyflawni gyda'r cymorth a'r hyfforddiant cywir."

Heb os nac oni bai, mae Simon yn unigolyn anhygoel sydd wedi rhagori ar bob lefel o ddisgwyliad yn ei fywyd personol a phroffesiynol, ac mae'n parhau i ddatblygu a thyfu ar ei siwrnai anhygoel

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 21st Ebrill 2020
VP-Feedback-Tab