Mae gweithio yn Vision Products wedi helpu Jason Rowley i dyfu mewn hyder, a'i alluogi i fyw'n annibynnol - mewn cartref sydd â ffenestri PVCu; rhai sy'n cael eu cynhyrchu yn ei weithle.
Cyn dechrau yn ei swydd fel gweithiwr cynhyrchu gyda Vision Products yn 2012, ni freuddwydiodd Jason, sy'n 49 oed, o Donysguboriau, y byddai'n byw yn annibynnol ac yn gwneud cymaint o ffrindiau newydd.
Mae gan Jason anabledd dysgu, ac o ganlyniad i hynny mae Jason wedi cael trafferth yn dod o hyd i waith sy'n cynnig y cymorth a'r hyfforddiant sydd ei angen arno.
Ond mae Vision Products, sy'n dathlu 25 mlynedd o fusnes, wedi helpu Jason i fagu hyder yn ogystal â chyflawni ei freuddwyd o fyw'n annibynnol am y tro cyntaf yn ei fywyd.
Mae Jason wedi cymryd ei waith adref gyda fe ac erbyn hyn yn byw mewn cartref sydd, nid yn unig â ffenestri PVCu, ond wedi'u gosod gan Vision Products.
Meddai rhieni Jason, Terry ac Yvonne, fod gweithio yn Vision Products wedi helpu eu mab i gyflawni cymaint. "Mae ef wrth ei fodd yn ei waith, mae wedi rhoi gymaint o hyder iddo. Mae hefyd wedi gwneud llawer o ffrindiau yn ystod y broses.”
Meddai Jason: “Mae gweithio yma wedi rhoi chwa newydd ar fywyd i mi. Rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau ac rydw i wrth fy modd yn dod i mewn i'r gwaith bob dydd.
“Rwyf hefyd yn sylweddoli fy mod yn rhan o dîm mawr, ac rydyn i gyd yn darparu gwasanaeth hynod o werthfawr i'r gymuned.”
Mae Vision Products yn fusnes sy'n cael ei gefnogi gan Gyngor RhCT. Mae'n darparu cyflogaeth a chyfleoedd datblygu i bobl gydag anableddau yn yr ardal.
Daw'r cyfleoedd hyn o ganlyniad i ddarpariaeth adran gweithgynhyrchu PVCu, y Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig, Siopau Symudedd a'r Adran Technoleg a Gwasanaethu.
Ar ôl adleoli i Bont-y-clun 25 mlynedd yn ôl, mae cwmni Vision Products wedi ehangu dros y blynyddoedd. Ond prif nodau, amcanion a gwerthoedd y cwmni wedi aros yr un fath am chwarter canrif bellach.
Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae Vision Products wedi arallgyfeirio ei ddarpariaeth gwasanaeth ac mae bellach yn fusnes ffyniannus, gyda chronfa cwsmeriaid bellach yn cael ei ymestyn i Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd a Chymdeithasau Tai ledled Cymru.
Mae Jason wedi bod yn gweithio yn adran adnewyddu'r cwmni ers 8 blynedd ac mae'n adnewyddu offer cymunedol. Yn ystod yr amser yma mae Jason wedi dod yn aelod gwerthfawr o'r staff, yn rhan allweddol o'r garfan ac yn weithiwr proffesiynol ymroddedig sy'n cynhyrchu gwaith o ansawdd uchel.
Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a'r Gymraeg: “Mae Jason yn enghraifft berffaith o rywun, gyda'r gefnogaeth gywir, sydd wedi cael y cyfle i ddatblygu yn nhermau sgiliau a sefyllfa bywyd personol a phroffesiynol.
“Rydyn ni i gyd mor falch o lwyddiant Jason wrth ei waith a'r daith bersonol y mae wedi llwyddo ei ddilyn o ganlyniad i weithio yn Vision Products.
“Mae Jason wedi dod dros rwystrau sylweddol o ran ei anabledd dysgu i gyflawni cymaint yn ei fywyd. Mae'n parhau i ddatblygu ac mae'n aelod pwysig iawn o'r gweithlu yn Vision Products.
“Mae pawb yn Vision Products mor angerddol am greu cynnyrch o'r radd flaenaf ac yn cael boddhad enfawr yn eu swyddi.”
Wrth barhau i ddatblygu, mae Jason wedi cwblhau ei gymhwyster llythrennedd digidol yn ddiweddar, ynghyd â hyfforddiant arall sy'n gysylltiedig â'r gwaith fel Hyfforddiant COSHH, hyfforddiant codi a chario a hyfforddiant sy'n benodol i'r cynnyrch sy'n cael ei greu.
Mae Jason yn weithiwr brwdfrydig sy'n mwynhau dysgu sgiliau newydd ac mae bob amser yn awyddus i gymryd rhan mewn hyfforddiant sy'n gysylltiedig â swydd. Tu hwnt i'r gweithle, mae'n mwynhau cerddoriaeth a chwarae'r gitar. Mae hefyd yn mwynhau nofio, mynd i'r gampfa a bowlio.
I Jason, mae gweithio yn Vision Products yn fwy na swydd iddo, mae'n amgylchedd diogel lle mae modd iddo ddysgu, tyfu a datblygu.
Mae ei ymrwymiad i hyfforddi a datblygu heb ei ail ac mae wedi ei alluogi i wneud rhagor o ran cymdeithasu y tu allan i'r gwaith. Mae ganddo lawer mwy o hyder ers iddo ddechrau byw'n annibynnol am y tro cyntaf.
Mae hyn yn gamp enfawr i Jason ac mae'n parhau i dyfu a datblygu yn bersonol ac yn broffesiynol.
Cyflwynwyd: Dydd Mercher 15 Mai 2019
Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 21st Ebrill 2020