In Partnership with Rhondda Cynon Taf County Borough Council

25 Blynedd o Vision Products

VPWorker1

Mae Vision Products wedi dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed, trwy gynnal Parti Pen-blwydd Arian yn ei bencadlys. 

Cafodd cwmni arobryn y Cyngor, Vision Products, sy'n darparu cyflogaeth a chyfleoedd datblygu cost-effeithlon i bobl ag anableddau, ei sefydlu ym 1993. Roedd hyn yn dilyn cyfuno Gweithdy i Bobl Ddall yn Llwynypïa a'r Gweithdy i Bobl Anabl yn Nhrefforest. 

Ar ôl adleoli i Bont-y-clun 25 mlynedd yn ôl, mae cwmni Vision Products wedi ehangu dros y blynyddoedd. Ond prif nodau, amcanion a gwerthoedd y cwmni wedi aros yr un fath am chwarter canrif bellach. 

Pan gafodd y cwmni ei sefydlu, ei brif waith oedd darparu gwasanaeth gwau a theilwriaeth. Mae Vision Products bellach yn fusnes ffyniannus, gyda chronfa cwsmeriaid bellach yn ymestyn i Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd a Chymdeithasau Tai ledled Cymru ac Esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru. 

Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a'r Gymraeg: "Mae gan Vision Products weithlu arbennig, maen nhw'n frwdfrydig iawn am eu swyddi a gweithgynhyrchu cynnyrch o'r radd flaenaf. 

"Dros y blynyddoedd, mae Vision Products wedi dal prawf amser gan newid ac esblygu ar yr un pryd. 

"Mae'r cwmni wedi'i leoli yn adran Gwasanaethau i Oedolion  y Cyngor, mae'n darparu gwasanaethau gwerthfawr i gymunedau Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae'n parhau i helpu trigolion gyda'u llesiant a'u hannibyniaeth. 

Mae pencadlys Vision Products bob amser yn fwrlwm o weithgarwch, a dydy hi ddim yn bosibl i unrhyw ymwelydd ddianc rhag y croeso cynnes sy'n cael ei gynnig iddo - o swyddogion Llywodraeth Cymru i westeion o dramor. 

"Mae Vision Products yn parhau i weithio gyda phobl ag anableddau ac mae ei rhaglen brentisiaeth i bobl ifainc yn cael ei chydnabod fel arfer da yn y diwydiant gweithgynhyrchu. 

"Mae'r gweithlu o hyd wrth galon Vision Products ac roeddwn i'n falch o allu ymuno â nhw yn rhan o ddathliadau pen-blwydd y cwmni yn 25 oed. Roedd yn gyfle i edrych yn ôl ar ei hanes balch ond hefyd yn gyfle i edrych tuag at y dyfodol."

I ddathlu pen-blwydd Vision Products yn 25 oed, cafodd gacen ei thorri gan weithiwr o'r enw Andrea Fleming. Derbyniodd bob aelod o staff anrheg arbennig i ddathlu'r pen-blwydd yn 25 oed. 

Mae Vision Products yn fusnes sy'n rhan o Gyngor Rhondda Cynon Taf. Bwriad Vision Products yw darparu ystod eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu addas a chost effeithlon i gefnogi unigolion ag anableddau.  

Daw'r cyfleoedd hyn o ganlyniad i ddarpariaeth adran gweithgynhyrchu PVCu, y Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig, Siopau Symudedd a'r Adran Technoleg a Gwasanaethu. 

Caiff yr holl gynnyrch ei ddylunio i fodloni gofynion penodol a manyleb y cwsmeriaid. Mae staff a charfan rheoli Vision Products wedi ymrwymo i fodloni anghenion eu cwsmeriaid gan ddarparu cyfleoedd hyfforddi ar gyfer ei weithlu o bobl anabl. 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae enw da Vision Products wedi ennill ei blwyf ac yn uchel ei barch yn y diwydiant PVCu cystadleuol, a hynny ar gyfer eiddo cartref ac eiddo masnachol.

Cyhoeddwyd: Dydd Mawrth 15 Ionawr 2019

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 21st Ebrill 2020
VP-Feedback-Tab