Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Sut rydyn ni'n ymateb i Covid-19 er mwyn diogelu'n staff a'n cwsmeriaid

Drwy gydol y cyfyngiadau symud, mae staff craidd Vision Products wedi parhau i weithio'n galed i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'n cwsmeriaid. O ganlyniad, rydyn ni wedi addasu'r ffordd rydyn ni'n gweithio er mwyn sicrhau bod diogelwch staff a chwsmeriaid yn flaenoriaeth i ni.   

Rydyn ni wedi cynnal asesiadau risg manwl, wedi newid ein prosesau a'n gweithdrefnau, ac wedi darparu cyfarpar diogelu personol priodol i bob aelod o staff er mwyn eu galluogi i gyflawni'u swyddi'n ddiogel, a hynny yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth a'r mesurau cadw pellter.  

Rydyn ni'n effro bod y ffordd rydyn ni'n cyfathrebu ac yn ymateb i chi efallai yn cymryd hirach ar hyn o bryd, o ganlyniad i sefyllfa barhaus Covid-19. Fodd bynnag, bydd ein carfanau yn ymateb i'ch ymholiad mor gynted â phosibl. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod anodd yma.

VP-Feedback-Tab