Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Ffenestri casment

Ffenestri casment

  • Ein ffenest fwyaf effeithlon o ran ynni
  • Lefelau diogelwch uchel, ag achrediad Secured by Desig
  • 26 opsiwn o ran lliw gyda gorffeniadau llyfn a graen pren
  • Wedi'u creu i bara gyda gwarantau cynhwysfawr 10 mlynedd
  • Proffil uPVC o ansawdd uchel
  • Maen nhw'n edrych yn ddymunol ac yn unigryw ar gyfer eich cartref chi
  • Wedi derbyn achrediad Sefydliad Safonau Prydeinig, FENSA a Diogelu Drwy Ddylunio

Rydyn ni'n sicrhau tawelwch meddwl

Yma yn Vision Products, ein nod yw bodloni gofynion ein cwsmeriaid drwy gynnig gwasanaeth di-dor o'r dechrau i'r diwedd. Pan fyddwch yn dewis Vision Products byddwch yn elwa o'n gwarant 10 mlynedd ynghyd â'r gwasanaeth gosod sy'n cael ei gynnig gan ein carfan o osodwyr medrus.

Y math o ffenest fwyaf poblogaidd

Ffenestri casement yw'r math o ffenest fwyaf poblogaidd ymhlith ein cwsmeriaid. Dyma yw'r opsiwn mwyaf effeithlon o ran tymheredd hefyd. Mae'r ffenestri yma'n hyblyg iawn, does dim angen gwneud llawer i'w cynnal ac mae modd eu teilwra i fod yn berffaith ar gyfer unrhyw eiddo.

Two-Casement-Windows
Residential-Project-Windows-And-Doors
Dibynadwyedd a Gwydnwch

Dewiswch o ystod o liwiau hardd ac arddulliau gwydr i drawsnewid eich cartref. Mae modd i ni gynhyrchu eich ffenest chi fel ei fod yn agor o'r ochr neu o'r top, gan eich galluogi chi i wneud y mwyaf o'r gwagle sydd ar gael yn eich eiddo.

Ein ffenest fwyaf effeithlon o ran ynysiad
Ein ffenestri casment PVCu yw'r rhai mwyaf effeithlon, gan gyflawni sgôr ynni A pan fydd yn ffenestr gwydr triphlyg. Rydym yn defnyddio proffil aml-siambr sy'n arwain y farchnad er mwyn gosod safon i sicrhau effeithlonrwydd ynysu gwell
Quality-Engery-Rating
UPVC-Old-Peoples-House-Windows-2

Y ffenest cywir ar gyfer unrhyw eiddo

Ar gael mewn amrywiaeth helaeth o arddulliau a lliwiau modern a thraddodiadol, gan gynnwys gorffeniadau llyfn a graen pren, gallwch ddewis y ffenest cywir i weddu i'ch eiddo. Os na allwch chi benderfynu ar un lliw, beth am ddewis ein opsiwn lliw deuol a fydd yn eich galluogi i ddylunio eich ffenestr fel ei fod yn addas ar gyfer y tu mewn a thu fas i'ch eiddo.

Peidiwch â chymryd ein gair ni'n unig am hynny.
Get-In-Touch-Square

Cysylltwch â ni heddiw!

Rhagor o ddewisiadau PVCU
UPVC-2-Windows-Black

Ffenestri y mae modd eu troi/troi ar ogwydd

  • Hawdd i'w glanhau
  • Wedi'u gwydro'n fewnol i sicrhau'r diogelwch mwyaf posibl
  • Ffenestri y mae modd eu troi ar ogwydd ar gyfer awyru diogel
  • 26 opsiwn o ran lliw gyda gorffeniadau llyfn a graen pren
  • Gwarant gynhwysfawr 10 mlynedd
  • Wedi'i achredu gan Fensa, Diogelu Drwy Ddylunio a'r Sefydliad Safonau Prydeinig
Fully-Reversible-Temp

 Ffenestri sy'n troi dwy ffordd

  • Yn troi dwy ffwrdd ar gyfer glanhau diogel a hawdd
  • 26 opsiwn o ran lliw gyda gorffeniadau llyfn a graen pren
  • Opsiynau gwydr dwbl/gwydr triphlyg  
  • Wedi'i achredu gan Fensa, Diogelu Drwy Ddylunio a'r Sefydliad Safonau Prydeinig
  • Proffil ansawdd PVCu sy'n arwain y farchnad
  • Gwarant gynhwysfawr 10 mlynedd

 

VP-Feedback-Tab